Yn ôl i newyddion

Cartrefi Melin yn ennill gwobr TG genedlaethol am weithlu hyblyg

Mae Cartrefi Melin wedi ennill 'Prosiect Trawsnewid Gweithle y Flwyddyn' yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU mewn seremoni wobrwyo yr wythnos hon yn Llundain.

Ysgrifennwyd gan Sam

21 Tach, 2016

Cartrefi Melin yn ennill gwobr TG genedlaethol am weithlu hyblyg
Mae Cartrefi Melin wedi ennill 'Prosiect Trawsnewid Gweithle y Flwyddyn' yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU mewn seremoni wobrwyo yr wythnos hon yn Llundain. Daeth y gymdeithas tai, sydd wedi ei lleoli ym Mhont-y-pŵl i'r brig ar ôl cyrraedd rhestr fer yn erbyn cwmnïau fel BT, Maes Awyr Heathrow, Cyllid a Thollau EM, Banc Lloyds a Virgin Media, a hynny am ei phrosiect gweithio ystwyth arloesol, a gafodd ei roi ar waith yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Drwy'r prosiect, mae Melin wedi creu 'gweithlu hyblyg' go iawn gan ddefnyddio technoleg flaengar, llawer o waith caled a chryn lawer o agwedd 'fe allwn wneud'. Mae'r prosiect wedi cael ei seilio ar alluogi staff Melin i weithio'n fwy craff ac ymgymryd â'u swyddi o unrhyw le. Mae staff rheng flaen yn awr yn gweithio ar dabledi, gan ddefnyddio meddalwedd integreiddiol i leihau'r angen i ymweld â'r swyddfa bob dydd, mae eu Bwrdd erbyn hyn yn gwbl ddi-bapur a gall staff weithio o gartref, neu unrhyw safle hyblyg arall, gan ganiatáu rhyddid iddynt i weithio'n gwbl hyblyg. Ochr yn ochr â'r newidiadau technolegol oedd eu hangen i gyflwyno'r prosiect hwn, mae staff wedi croesawu'r newid diwylliannol enfawr i fod yn weithlu gwbl hyblyg.

Meddai Sharon Crockett, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Busnes, a anerchodd y panel beirniadu ac a fynychodd y seremoni wobrwyo; "Roeddem yn gwybod bod gennym ymgais gref ond rydym ill dau yn hynod falch ac yn synnu braidd ein bod wedi ennill y wobr bwysig hon, yn enwedig o ystyried yr enwau llawer mwy oedd yn ein herbyn yn y categori. Mae'n destament i'n tîm technoleg am yr holl waith caled maent wedi'i wneud, ond mae’r diolch hefyd i’n staff sydd wedi mynd amdani o ddifri i'n gwneud yn wirioneddol hyblyg. Mae wedi bod yn daith anhygoel, ond wrth gwrs, nid yw drosodd eto "

Dywedodd Paul Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp BCS, Sefydliad Siartredig TG: "Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr a'r rhai a gafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2016. Mae BCS, Sefydliad Siartredig TG yma i wneud TG yn dda i gymdeithas ac mae'r Gwobrau yn rhan fawr o hyn. Maent yn cydnabod y lefelau uchaf o broffesiynoldeb ac arloesedd yn y sector TG. Roedd safon y ceisiadau a ddaeth i law eleni yn uchel iawn, ond roedd yr enillwyr yn sefyll allan fel ymgeiswyr eithriadol ac ysbrydoledig, a dylent fod yn falch iawn o'u llwyddiant. "
Mae BCS a Gwobrau Diwydiant TG y DU yn llwyfan i’r proffesiwn cyfan, i ddathlu arfer gorau, arloesedd a rhagoriaeth. Roedd y gwobrau eleni yn cynnwys 25 o gategorïau yn cwmpasu: prosiect, trefniadaeth, technoleg a rhagoriaeth unigol. Roedd y categorïau’n agored i sefydliadau ac unigolion sy’n gysylltiedig â TG ar draws y sectorau cyhoeddus, dielw a masnachol.

Yn ôl i newyddion