Yn ôl i newyddion

Cartrefi Melin yn y 53fed safle ymhlith y 100 Sefydliad Gorau i weithio iddynt yn y DU

Rydym wedi cael ein gosod yn y 53fed safle fel y sefydliad dielw gorau i weithio iddynt yn 2016 yng 100 uchaf y Sunday Times.

Ysgrifennwyd gan Marcus

29 Chwef, 2016

Cartrefi Melin yn y 53fed safle ymhlith y 100 Sefydliad Gorau i weithio iddynt yn y DU

Rydym wedi cael ein gosod yn y 53fed safle fel y sefydliad dielw gorau i weithio iddynt yn 2016 yng 100 uchaf y Sunday Times. Gwnaed y cyhoeddiad mewn seremoni wobrwyo yn Llundain yr wythnos hon a chyflawnodd Melin achrediad 1-seren. Mae'r 53fed safle yn gwella ar ein safle y llynedd (77ain), gyda'r canlyniadau'n cael eu llunio yn dilyn arolwg staff i gael eu barn ynghylch y math o weithle yw Melin, yn ogystal â chyflwyniad ehangach gan y mudiad parthed eu cenhadaeth a'u nodau. Yn ogystal â hyrwyddo pa mor dda y mae Melin yn cefnogi ei staff, cawsant gydnabyddiaeth am eu gwaith yn amddiffyn yr amgylchedd a chyflawnodd y sgôr uchaf o 10 yn y categori hwn.

Meddai Sharon Crockett, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ym Merlin, a fynychodd y seremoni wobrwyo; "Mae cael ein gosod yn y 53fed safle yn y DU yn gyflawniad gwych yr ydym yn falch iawn ohono. Mae'r gwobrau hyn yn wirioneddol bwysig i dîm arweinyddiaeth Melin am ei fod yn cael ei ddyrannu ar y sail y mae staff yn teimlo o ddifri am y lle y maent yn gweithio ynddo, ac mae'n adlewyrchu pa fath o le o ddifri yw Melin i weithio iddo. Dyma'r ail flwyddyn yn unig i ni ymgeisio yn y gwobrau hyn ac mae neidio dros 20 lle mewn un flwyddyn yn dyst i holl waith caled ein staff a'r diwylliant hapus a chadarnhaol sydd gennym."

Igaelragor owybodaeth am ygwobrauewchiwefan Gwobrau ‘Best Companies’.


Yn ôl i newyddion