Yn ôl i newyddion

Cefnogi ein partneriaid mewn ysgolion

Mae pwysigrwydd cefnogi ein cymunedau lleol wrth galon yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym wedi sefydlu cronfa cymunedau cynaliadwy, y mae contractwyr sy’n gweithio gyda ni’n cyfrannu ati. Mae’r arian yma’n helpu i gefnogi ein prosiect ysgolion, FACE.

Ysgrifennwyd gan Fiona

29 Hyd, 2020

Staff Melin, Georgina ac Emily, yn un o’n hysgolion partner

Mae pwysigrwydd cefnogi ein cymunedau lleol wrth galon yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym wedi sefydlu cronfa cymunedau cynaliadwy, y mae contractwyr sy’n gweithio gyda ni’n cyfrannu ati. Mae’r arian yma’n helpu i gefnogi ein prosiect ysgolion, FACE.

Cefnogodd Solar Windows Limited brosiect llesiant athrawon yn ddiweddar pan aeth tîm FACE allan ac ymweld â saith o’n hysgolion partner: Ysgol Gynradd Llanyrafon, Ysgol Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa, Ysgol Gyfun Abersychan, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Mihangel, Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon, Ysgol Uwchradd Cwmbrân ac Ysgol Cil-y-Coed.

Derbyniodd pob ysgol becynnau llesiant yn cynnwys te, coffi a danteithion ac roedd yr athrawon i gyd yn ddiolchgar, ar ôl un o dymhorau anoddaf eu gyrfaoedd.
“Diolch yn fawr iawn i’r tîm yng Nghartrefi Melin Homes a Solar Windows. Roedd y staff i gyd yn gwerthfawrogi’r danteithion, te a choffi. Hael iawn! Mae hi wedi bod yn wyth wythnos arbennig o anodd ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at ymlacio yn ystod hanner tymor – hyd yn oed oes byddwn ni dan glo!!” dywedodd Mandy o Ysgol Gynradd Llanyrafon wrthym ni.

Dywedodd Dean Read, Rheolwr Gwerthiant Masnachol gyda Solar Windows: “Fel cwmni lleol, rydym yn awyddus i gefnogi prosiectau lleol, ac mae cael cytundeb â Melin wedi’n helpu i wneud hyn. Mae gweld lluniau’r staff yn yr ysgolion, y un o’r blynyddoedd mwyaf anodd sydd wedi bod, yn fraint ac mae gwybod ein bod wedi helpu gyda hyn yn wobr ynddi’i hun i ni. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Melin, a chefnogi rhagor o fentrau cymunedol.”

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Paula Kennedy am y prosiect: “Mae ein staff yn parhau i gael effaith cadarnhaol yn ein cymunedau er gwaethaf yr anawsterau presennol. Mae ein prosiect ysgolion yn un rhan yn unig o’n cefnogaeth i gymunedau a thrigolion.”


Yn ôl i newyddion