Yn ôl i newyddion

Coffi gyda’r Comisiynydd

Daeth Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn, Kelly Davies, i ymweld ag un o gynlluniau gwarchodol Cartrefi Melin yr wythnos diwethaf er mwyn dysgu mwy am y gwasanaethau y mae trigolion eisiau o Lywodraeth Cymru.

Ysgrifennwyd gan Sam

31 Ion, 2018

Coffi gyda’r Comisiynydd
Daeth Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn, Kelly Davies, i ymweld ag un o gynlluniau gwarchodol Cartrefi Melin yr wythnos diwethaf er mwyn dysgu mwy am y gwasanaethau y mae trigolion eisiau o Lywodraeth Cymru.
Cafodd Ms Davies sgwrs â thrigolion yn St Mary’s Court yng Nghasnewydd ddydd Iau diwethaf pan alwodd hi i mewn i’w bore coffi. Roedd yn awyddus i ddysgu mwy am fanteision byw mewn cynllun gwarchodol yn ogystal ag unrhyw broblemau eraill mae pobl hŷn yn eu hwynebu.
Dywedodd trigolion wrthi am eu bywydau pob dydd yn ein cynllun gwarchodol a sut maen nhw’n cysylltu ag ysgol leol ac wedi mwynhau diwrnod gemau bwrdd yn ddiweddar gyda disgyblion o ysgol gynradd St. Woolos.
Dywedodd Ms Davies: “Roedd yn wych cwrdd â thrigolion St. Mary’s Court. Ges i groeso cynnes ac roedd yn wych clywed am yr holl weithgareddau y maen nhw’n ymwneud â nhw ac am eu bywyd cymdeithasol! Roedd yna deimlad o gymuned a rhwydwaith cefnogaeth clir. Rydw i’n edrych ymlaen at ymweld eto cyn bo hir i ymuno a’u grŵp rhwng-y-cenedlaethau.”

Yn ôl i newyddion