Pryderu am ddelio cyffuriau yn eich ardal?
Os ydych chi’n amau bod rhywun yn gwerthu cyffuriau yn eich ardal - dywedwch amdano! Mae Heddlu Gwent yn gweithio i dorri’r gadwyn rhwng cyffuriau a throsedd ond mae angen eich help arnyn nhw.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—14 Hyd, 2022
![Gwent Police logo](/assets/articles/_content800/news-gwent-police-crimestoppers.png)
Os ydych chi’n pryderu am werthu cyffuriau yn eich ardal, defnyddiwch yr opsiynau isod er mwyn dweud am hynny:
→ Ffoniwch 101
→ Rhowch wybod trwy e-bost at contact@gwent.police.uk
→ Rhowch wybod ar Facebook/heddlugwent
→ Rhowch wybod trwy Twitter @heddlugwent
→ Ar gyfer galwadau brys, ffoniwch 999 bob tro
→ Rhowch wybod i Daclo’r Tacle’n ddienw trwy ffonio 0800 555 111