Yn ôl i newyddion

Croeso i’n Prif Weithredwr Newydd

Yr wythnos hon rydym yn croesawu ein Prif Weithredwr newydd, Paula Kennedy i dîm Melin.

Ysgrifennwyd gan Valentino

07 Chwef, 2017

Croeso i’n Prif Weithredwr Newydd
Rydym yn falch iawn i groesawu Paula Kennedy i deulu Melin fel ein Prif Weithredwr newydd. Cychwynnodd Paula yn ei swydd newydd ar 6 Chwefror ac mae hi'n ymuno â ni o Brunelcare, y sefydliad gofal blaenllaw ym Mryste.

Dywedodd Paula; "Rwyf wrth fy modd i fod yn Brif Weithredwr ar yr hyn yr wyf yn ei gweld fel cymdeithas dai Cymreig blaenllaw. Mae hefyd yn wych i gael y cyfle i symud yn ôl i'r fath amgylchedd positif sydd yng Nghymru o ran polisïau a gwleidyddiaeth ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda gwleidyddion lleol."

Mae Paula eisoes wedi mynychu cyfarfodydd bwrdd a chwrdd â rhai aelodau staff cyn cychwyn yn ei rôl newydd. Mae'r ychydig wythnosau cyntaf yn ei swydd newydd yn debygol o'i gweld yn amlinellu cynlluniau yn y dyfodol gyda staff a rhanddeiliaid lleol. Rydym yn sicr y byddwch am ymuno â ni i groesawu Paula i dîm Melin.

Yn ôl i newyddion