Yn ôl i newyddion

Cwmnïau Gorau 2018

Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni yn y Lle Gorau i Weithio yn y Sector Dielw gan The Sunday Times. Ac mae gennym, yn bendant, reswm i ddathlu, a dyma pam:

Ysgrifennwyd gan Fiona

15 Maw, 2018

Cwmnïau Gorau 2018
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni yn y Lle Gorau i Weithio yn y Sector Dielw gan The Sunday Times. Ac mae gennym, yn bendant, reswm i ddathlu, a dyma pam:

• Daethom 17eg yn 100 Uchaf o Gwmnïau dielw y Sunday Times i weithio iddynt yn 2018,
• Daethom 6ed yn y 25 cymdeithas dai orau i weithio iddynt,
• Cawsom achrediad dwy seren, ac
• Enillasom wobr arbennig am ‘Roi rhywbeth yn ôl’.
Rydym yn falch iawn o’r gwelliant o gymharu â’r llynedd, lle daethom 37ain - rydym wedi mynd i fyny 20 lle ers hynny.

Cytunodd 88% o’r staff bod y gyfundrefn yn cael ei rhedeg yn ôl egwyddorion cryf; cytunodd 97% bod Melin yn annog gweithgareddau elusennol a dywedodd 80% eu bod yn hapus gyda’r cydbwysedd gwaith/bywyd.

Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin: “Mae dod yn 17eg yn llwyddiant gwirioneddol. Mae’r gwobrau hyn yn bwysig i’n tîm arwain ym Melin oherwydd mae’n cael ei roi ar sail sut mae staff yn teimlo mewn gwirionedd ynglŷn â lle maent yn gweithio ac yn adlewyrchu’r realiti bod Melin yn lle gwych i weithio iddo.”

Yn ôl i newyddion