Yn ôl i newyddion

Cyfarfod ein Prentisiaid

Cyfarfod ein Prentisiaid

Ysgrifennwyd gan Marcus

03 Tach, 2017

Cyfarfod ein Prentisiaid
Rydym yn awyddus i roi cyfle i brentisiaid ac ar hyn o bryd mae gennym 10 yn gweithio yn ein Hadran Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Mae prentisiaethau yn gyfle gwych i bobl ddysgu a meithrin eu sgiliau. Mae ein prentisiaid yn gweithio gyda ni pan fyddant yn y coleg, i gael sgiliau a gydnabyddir gan y diwydiant, ac maent hefyd yn cael budd mawr o dreulio amser gyda’u cydweithwyr mwy profiadol.

Mae nifer o’n prentisiaid wedi bod yn llwyddiannus ac wedi symud i rolau cymwysedig yma ym Melin, ac mae llawer yn cael gwaith llawn-amser yn lleol yn y grefft maent wedi eu hyfforddi ynddi.

Ar hyn o bryd, mae gennym 4 prentis nwy a phlymio, 1 prentis trydanol, 2 brentis peintio a 3 prentis saernïaeth. Efallai y byddwch yn eu cyfarfod pan fyddwn yn trwsio ac yn gwasanaethu eich cartref.

Yn ôl i newyddion