Yn ôl i newyddion

Cyrsiau Cisco ar gael yn Academi Melin a gefnogir gan Gymunedau yn Gyntaf

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn cefnogi prosiect allweddol sy'n anelu i wella sgiliau digidol ledled Torfaen.

Ysgrifennwyd gan Marcus

17 Ion, 2017

yn Academi Melin

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn cefnogi prosiect allweddol sy'n anelu i wella sgiliau digidol ledled Torfaen. Mae'r cwrs IT Essentials, gan Cisco, ar gael drwy Academi Melin ym Mlaenafon. Bydd yr hyfforddiant nid yn unig yn darparu sgiliau digidol lefel uchel a helpu dysgwyr i gystadlu am swyddi sy'n talu'n dda, ond mae Cymunedau yn Gyntaf a Chartrefi Melin hefyd yn anelu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn y sector TG yn Ne Cymru. IT Essentials oedd y cwrs cyntaf sydd ar gael, ond bydd nifer o rai eraill yn y dyfodol agos, fel Linux Essentials a Cybersecurity. Mae Academi Melin wedi ei lleoli ym Mlaenafon ar Ivor Street - y tu ôl i'r Co-op.Dywedodd Gareth Davies o Gymunedau

Dywedodd Gareth Davies o Gymunedau yn Gyntaf "Mae Bargen Ddinesig: Prifddinas Ranbarth Caerdydd sydd ar y gweill, wedi cydnabod y bydd gwella trafnidiaeth a sgiliau yn sbardun allweddol i gynyddu GYC mewn hen ardaloedd diwydiannol sydd wedi dirywio, a chanolbwyntio ar arloesedd a thechnoleg uwch. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn falch o gefnogi Cartrefi Melin o ran meddwl mewn ffordd flaengar wrth gefnogi cyfleuster o'r fath ym Mlaenafon."Dywedodd Anish Maden,

Dywedodd Anish Maden, myfyriwr cyntaf Academi Melin i lwyddo ar gwrs IT Essentials, "O ran y cwrs yr wyf i yn bersonol wedi mwynhau dysgu am gynnal a datrys problemau cyfrifiadurol a defnyddio packet tracer i ffurfweddu rhwydwaith. Roedd y gwahanol ymarferion tiwtorial fideo a labordy yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol."

Meddai Peter Brain, sy’n ddysgwr ar hyn o bryd, “Mae cwrs IT Essentials yn gwrs TG sy’n wahanol i bopeth arall sydd ar gael. Mae’n mynd i fod yn hynod o ddefnyddiol ar gyfer yr amser pan fyddaf yn ymgeisio am swyddi. Mae’n hygyrch iawn am ei fod ar lein, ond rydym hefyd yn cael ein hannog i ymuno ym mhethau yn yr Academi, fel nad ydym ar ein pen ein hunain. Mae’r system e-bost mewnol yn dda iawn o ran dod â phobl at ei gilydd a’n hannog i siarad â dysgwyr eraill.”

Meddai Louise Kingdon o Gartrefi Melin “Mae wedi bod yn waith caled cychwyn y cwrs cyntaf ac anadlu bywyd newydd i mewn i'r fath hen adeilad gwych, ond erbyn hyn rydym mewn sefyllfa i yrru ymlaen â'n huchelgeisiau ar gyfer hyfforddiant sgiliau digidol uwch. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y bartneriaeth rhwng Melin a Chymunedau yn Gyntaf".

Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi neu os hoffech gael gwybod mwy, cysylltwch â Louise Kingdon ar 01495 745910.


Yn ôl i newyddion