Yn ôl i newyddion

Dadorchuddio plac Crynwyr ar Factory Road

Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio ar eiddo Melin yn Factory Road, Brynmawr.

Ysgrifennwyd gan Marcus

05 Mai, 2016

The unveiling of the plaque.
Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio ar eiddo Melin yn Factory Road, Brynmawr. Cafodd y plac ei ddadorchuddio gan Fforwm Treftadaeth Blaenau Gwent i nodi ble safai Ffatri Gwalia gynt a ddaeth wedyn yn 'Arbrawf Brynmawr' cyn ei hailagor gan Peter Scott a'r Crynwyr fel Ffatri Dodrefn Brynmawr. Fe wnaeth y ffatri chwarae rhan helaeth mewn cynhyrchu pethau ar gyfer y rhyfel, fel y webin ar gyfer y Mosquito, awyrennau bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd modd gweld olion y ffatri hyd nes iddi gael ei dymchwel i wneud lle ar gyfer datblygiad Factory Road gan Gartrefi Melin.

Yn ôl i newyddion