Yn ôl i newyddion

Diwrnod Ewch yn Wyrdd

Mae gennym y sgoriau ar y drysau am ein hymdrechion codi arian ar #GoGreenDay i gefnogi Maint Cymru. Creodd Maint Cymru Ddiwrnod Ewch yn Wyrdd i godi ymwybyddiaeth ynghylch newid yn yr hinsawdd sy'n fater real iawn. Bydd y cyfan o'r £267 a godwyd yn helpu i ddiogelu 2 filiwn o hectarau o goedwig law drofannol a bydd yr elusen yn cyfrannu arian cyfatebol, felly'n creu swm enfawr o £534!

Ysgrifennwyd gan Fiona

10 Tach, 2016

Diwrnod Ewch yn Wyrdd

Mae gennym y sgoriau ar y drysau am ein hymdrechion codi arian ar #GoGreenDay i gefnogi Maint Cymru.

Creodd Maint Cymru Ddiwrnod Ewch yn Wyrdd i godi ymwybyddiaeth ynghylch newid yn yr hinsawdd sy'n fater real iawn.

Bydd y cyfan o'r £267 a godwyd yn helpu i ddiogelu 2 filiwn o hectarau o goedwig law drofannol a bydd yr elusen yn cyfrannu arian cyfatebol, felly'n creu swm enfawr o £534!

Unwaith eto, fe wnaeth y staff gefnogi'r diwrnod codi arian yn llawn, gan wisgo mewn gwyrdd, cael tatŵs 'Cymru' gwyrdd, a chynnal raffl enfawr gyda dros 15 o wobrau a roddwyd gan gontractwyr a phartneriaid.

Y gweithgaredd codi arian gorau o bell ffordd oedd 'Hawlio eich darn o Gymru'. Cawsom fap anferth o Gymru, gyda staff yn talu £1 i hawlio lle a oedd yn golygu rhywbeth arbennig iddyn nhw. Ar wahân i godi arian fe wnaeth y gweithgaredd amlygu'r angerdd a'r balchder y mae'r staff yn ei deimlo am Gymru. Cawsom gyfle i ddysgu ymhle y magwyd pobl a ble yr arferai hwy fynd ar eu gwyliau gyda'u teuluoedd a chreu atgofion gwerthfawr.

Fe wnaeth ddetholiad o staff fynychu lansiad Diwrnod Ewch yn Wyrdd yn stadiwm Principality Caerdydd gan gynnwys ein masgot gwyrdd 'Melvin'. Profodd Melvin i fod yn llwyddiant mawr ymysg yr holl fynychwyr ac ar un pwynt roedd ganddo giw mawr yn aros i dynnu llun gydag ef!



Yn ôl i newyddion