Yn ôl i newyddion

Dreigiau’n Cludo

Os ydych chi’n un o drigolion Melin sy’n hunan-ynysu ac angen siopa neu feddyginiaeth, efallai gall Dreigiau’n Cludo helpu.

Ysgrifennwyd gan Sam

13 Mai, 2020

Dreigiau’n Cludo logo

Os ydych chi’n un o drigolion Melin sy’n hunan-ynysu, efallai gall Dreigiau’n Cludo helpu. Mae chwaraewyr a staff yn Rygbi’r Dreigiau wedi bod yn dangos ysbryd cymunedol trwy gydol argyfwng Covid-19 trwy gludo meddyginiaeth at bobl fregus sy’n cysgodi.

Diolch i’n partneriaeth wych gyda thîm Cymuned y Dreigiau, maen nhw nawr yn cynnig gwneud yr un peth i drigolion Melin sy’n hunan-ynysu. Felly, os ydych chi, neu unrhyw un yr ydych yn ei hadnabod yn gaeth i’r tŷ oherwydd salwch neu’n hunan-ynysu ac angen help i gael presgripsiwn neu siopa, danfonwch e-bost at mike.sage@dragonsrugby.wales

Os ydych chi’n rhydd o symptomau a byddech yn hoffi gwirfoddoli i helpu Dreigiau’n Cludo, gallwch ddanfon e-bost at Mike trwy’r cyfeiriad uchod.
Dysgwch ragor trwy ddilyn @DRA_Community ar Twitter neu ewch at eu gwefan.

Yn ôl i newyddion