Yn ôl i newyddion

Dyddiau Da

Cynhaliodd ein cynllun gwarchodedig, Llys Ebwy yng Nglyn Ebwy ddiwrnod i gofio’r Ail Ryfel Byd gyda the a theisennau yn y prynhawn.

Ysgrifennwyd gan Fiona

26 Medi, 2017

Dyddiau Da
Cynhaliodd ein cynllun gwarchodedig, Llys Ebwy yng Nglyn Ebwy ddiwrnod i gofio’r Ail Ryfel Byd gyda the a theisennau yn y prynhawn.

Daeth y trigolion at ei gilydd i rannu storïau personol iawn o’r Rhyfel Byd a chefndir o wasanaeth yn y Llynges, Y Llu Awyr a’r Fyddin. Roedd yn glir o’r gwenau a’r storïau bod rhai’n dod yn gyfeillion newydd.

Dangosodd Robert Clubb, 93 oed ei fedalau i’w gyd-drigolion ynghyd â llythyr yn diolch iddo am ei wasanaeth a dyddiadur o’i atgofion ers iddo ddechrau ei yrfa yn y Llynges Fasnachol. Ymunodd pan oedd yn 18 oed, gan gwrdd â’i wraig, Doreen yn 1944. Aethon nhw ymlaen i gael pedwar o blant.

Siaradodd Brian Griffiths, 80 oed, am y “dyddiau da” wrth iddo gofio am ei wasanaeth yn y Llynges Fasnachol a’r Llu Awyr. Mae wedi bod yn byw yn Llys Ebwy am 14 mlynedd a gwenodd yn gellweirus pan ofynnwyd iddo a oedd yr hen si am ferch ym mhob porthladd yn wir!

Daeth dros 15 o drigolion ynghyd i fwynhau’r cymdeithasu a’r storïau. Dywedodd Rheolwr y Cynllun, Liz Hughes; “Mae diwrnodau fel hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i drigolion ddod ynghyd gyda’i diddordebau’n gyffredin. Mae’r storïau sydd wedi cael eu rhannu wedi bod yn brofiad. Yn sicr byddwn yn trefnu mwy o weithgareddau fel hyn gan fod pawb wedi elwa cymaint o heddiw.”

Cofiodd Des, a fu yn y fyddin am 22 mlynedd fel y Sarjant Morgan; sut y byddai’r dynion yn chwarae triciau ar ei gilydd gan ddweud; “Fe fyddem ni’n weindio’n gilydd ac yn tricio’n gilydd i wneud rhagor o waith!”

Cafodd y cynllun hefyd fenthyg bocs o bethau’n ymwneud â’r Ail Ryfel Byd o’r Amgueddfa leol, yn cynnwys toriadau o bapurau newydd, cardiau adnabod, llyfrau dogni, wy powdr, cloch a fflach lamp blacowt.

Yn ôl i newyddion