Yn ôl i newyddion

Eich canllaw bach cyfleus i anwedd

Mae bob amser rhywfaint o leithder yn yr aer, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Pan fydd aer cynnes yn oeri, nid yw'n gallu dal yr holl leithder a gynhyrchir gan weithgareddau bob dydd a bydd peth o'r lleithder hwn yn ymddangos fel diferion bach o ddŵr

Ysgrifennwyd gan Marcus

04 Tach, 2016

Condensation

Mae bob amser rhywfaint o leithder yn yr aer, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Pan fydd aer cynnes yn oeri, nid yw'n gallu dal yr holl leithder a gynhyrchir gan weithgareddau bob dydd a bydd peth o'r lleithder hwn yn ymddangos fel diferion bach o ddŵr. Mae fwyaf amlwg ar ffenestri ar fore oer.

Gelwir hwn yn anwedd.

Chwiliwch am anwedd yn eich cartref. Gall ymddangos ar ffenestri neu ger ffenestri, mewn corneli a thu mewn i gypyrddau dillad a chypyrddau neu y tu ôl iddynt. Mae anwedd yn ffurfio ar wynebau a lleoedd oer lle nad oes aer yn symud llawer a bydd yn eistedd ar yr wyneb, tra byddai lleithder yn treiddio yn ddyfnach na'r wyneb.

Gallwch ddarllen ein canllaw bach cyfleus canllaw i anwedd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag anwedd, cysylltwch â ni ar 01495 745910 neu e-bostiwch enquiries@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion