Yn ôl i newyddion

Eich Canllaw Defnyddiol i Anwedd

Eich Canllaw Defnyddiol i Anwedd

Ysgrifennwyd gan Marcus

28 Meh, 2016

Eich Canllaw Defnyddiol i Anwedd

Mae bob amser rhywfaint o leithder yn yr aer, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Os yw aer cynnes yn oeri, nid yw'n gallu dal yr holl leithder a gynhyrchir gan weithgareddau bob dydd ac mae peth o'r lleithder hwn yn ymddangos fel diferion bach o ddŵr. Mae'n fwyaf amlwg ar ffenestri ar fore oer.

Gelwir hyn yn anwedd.

Camgymerir anwedd yn aml leithder treiddgar neu leithder codi, ond mae'n haws o lawer i'w drin a'i osgoi. Mae anwedd yn digwydd mewn tywydd oer, hyd yn oed pan fydd y tywydd yn sych.

Chwiliwch am anwedd yn eich cartref. Gall ymddangos ar ffenestri neu'n agos iddynt, mewn corneli ac mewn cypyrddau dillad a chypyrddau neu y tu ôl iddynt.

Mae anwedd yn ffurfio ar arwynebau oer a lleoedd nad oes aer yn symud llawer, a bydd yn eistedd ar yr wyneb, tra bod lleithder yn treiddio yn ddyfnach na'r wyneb.

Er mwyn atal anwedd, dilynwch y camau canlynol:

  • Gwnewch llai o leithder drwy sychu eich dillad y tu allan, rhedeg y tap dwr oer cyn y tap dŵr poeth yn y bath a rhoi cloriau ar sosbenni
  • Cofiwch awyru eich cartref drwy agor ffenestri a defnyddio ffan echdynnu.
  • Gwresogwch eich cartref yn effeithlon, ar dymheredd isel cyson o 18ºC, i atal anwedd rhag ffurfio oherwydd y newid mewn tymheredd
  • Gwaredwch ar lwydni ar unwaith er mwyn ei atal rhag lledaeni ac achosi niwed - mae archfarchnadoedd a siopau addurno yn gwerthu nwyddau arbennig

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag anwedd, cysylltwch â ni ar 01495 745910 neu e-bostiwch enquiries@melinhomes.co.uk.


Yn ôl i newyddion