Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Eich Cyfrif Melin

Mae gennym ni ffordd syml a hawdd i ofyn am waith atgyweirio a thalu rhent – gyda’ch cyfrif Melin ar-lein.

Ysgrifennwyd gan Marcus

02 Rhag, 2016

Eich Cyfrif Melin
Mae gennym ni ffordd syml a hawdd i ofyn am waith atgyweirio a thalu rhent – gyda’ch cyfrif Melin ar-lein. Does dim yn haws..…

Y cwbl sydd angen i chi wneud yw cofrestru ar y Porth Trigolion. Dim ond munud sydd angen; dilynwch y tri cham syml yma:

  • Ewch i www.melinhomes.co.uk a dilynwch y ddolen i’r Porth Trigolion
  • Teipiwch eich cyfeirnod tenantiaeth a’ch cyfeiriad e-bost i gofrestru
  • Dechreuwch reoli eich tenantiaeth ar-lein!

Mae eich cyfeirnod tenantiaeth ar eich cytundeb tenantiaeth. Os na allwch gael hyd i’ch cyfeirnod, cysylltwch â ni ar 01495 745910.

Mae eich cyfrif ar-lein yn ffordd gyfleus i weld amrywiaeth o bethau yn ymwneud a’ch tenantiaeth, o atgyweiriadau at wybodaeth gyfredol am eich cyfrif rhent.

Dyma rhai o’r pethau y gallwch wneud trwy eich cyfrif cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru:

  • Gweld manylion eich tenantiaeth
  • Gweld a phrintio’ch datganiad rhent
  • Talu rhent
  • Gweld hanes atgyweiriadau
  • Gofyn am waith atgyweiriad
  • Newid eich manylion cyswllt

Ymunwch nawr i gael y manteision a’r gwasanaethau sydd ar gael ar-lein.

Yn ôl i newyddion