Yn ôl i newyddion

Ein cais am gymunedau sy'n ystyriol o ddementia

Mae staff yng Nghartrefi Melin wedi nodi wythnos Dementia Cenedlaethol gyda sesiynau codi ymwybyddiaeth, blychau cof, a llyfr, mewn ymgais i wneud ein cymunedau'n fwy ystyriol o ddementia.

Ysgrifennwyd gan Sam

18 Mai, 2016

Mae staff yng Nghartrefi Melin

Mae staff yng Nghartrefi Melin wedi nodi wythnos Dementia Cenedlaethol gyda sesiynau codi ymwybyddiaeth, blychau cof, a llyfr, mewn ymgais i wneud ein cymunedau'n fwy ystyriol o ddementia.

Mae Shona Martin, Rheolwr Living Well, sydd wedi'i hyfforddi i fod yn Gyfaill Dementia wedi darparu sesiynau chwalu mythau hynod ddefnyddiol i helpu staff i ddeall sut beth yw bywyd i berson sy'n byw gyda Dementia.

Mae Tîm Cymunedau'r Gymdeithas Tai yn defnyddio llyfr a ysgrifennwyd gan rieni Caerffili nad oeddent yn gwybod sut i egluro dementia i'w plant. Prynodd y tîm 20 o gopïau o'r llyfr o'r enw 'The Elephant Who Forgot' i ledaenu'r gair ymhlith eu trigolion iau.

Mae pobl sy'n byw yng nghynlluniau gwarchod Melin wedi bod yn cael budd o sesiynau hel atgofion Bocs Cof y mae'r tîm wedi bod yn rhedeg ar y cyd â'r gwasanaeth Amgueddfeydd. Meddai Laura Denyer, Rheolwr Llety Gwarchod Victoria Court, Y Fenni: "Roedd y trigolion yn bobl gadarnhaol iawn a chanddynt ffocws; fe wnaeth y bobl sydd fel arfer yn dawel a ddim yn siarad, gymryd rhan a mwynhau eu hunain yn fawr iawn."

Meddai Mrs Martin: "Yng Nghymru, mae dros 42,000 o bobl yn byw gyda dementia a gan fod gennym boblogaeth sy'n heneiddio mae'r niferoedd yn debygol o gynyddu. Mae'n gwneud synnwyr felly ein bod ni fel sefydliad gofalgar yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch.

Dywedodd Adrian Huckin Cyfarwyddwr Cymunedau, Mentergarwch a Gofal, Cartrefi Melin: "Rwy'n awyddus i sicrhau bod ein holl staff rheng flaen wedi eu harfogi â gwell dealltwriaeth o sut beth yw hi i fyw gyda dementia. Rydym yn cymryd camau mawr tuag at ddod yn sefydliad sy'n ystyriol o ddementia."

Gallwch ddod o hyd i sesiwn Cyfeillion Dementia yn eich ardal chi trwy ymweld â gwefan Cyfeillion Dementia.


Yn ôl i newyddion