Yn ôl i newyddion

Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru

Mae etholiadau Llywodraeth Leol Cymru yn cael eu cynnal ar 4 Mai 2017.

Ysgrifennwyd gan Marcus

06 Ebr, 2017

Mae etholiadau Llywodraeth Leol Cymru yn cael eu cynnal ar 4 Mai 2017. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, bydd angen i chi gofrestru er mwyn pleidleisio.

Y ffordd gyflymaf a hawddaf i gofrestru yw ar-lein. Cliciwch yma <https://www.gov.uk/register-to-vote> i gofrestru i bleidleisio.

Medrwch hefyd gysylltu â gwasanaethau democrataidd eich cyngor lleol, a fydd yn eich helpu chi i gofrestru.


Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos, nos Iau 13 Ebrill.

Yn ôl i newyddion