Yn ôl i newyddion

Ffarwel bach, gyda chanlyniadau mawr

Gyda chalon drom yr ydym yn ffarwelio â phrosiect Gam wrth Gam, sydd bellach wedi dod i ben.

Ysgrifennwyd gan Valentino

14 Gorff, 2016

Ffarwel bach, gyda chanlyniadau mawr

Gyda chalon drom yr ydym yn ffarwelio â phrosiect Gam wrth Gam, sydd bellach wedi dod i ben. Mae'r prosiect wedi cyflawni canlyniadau enfawr dros y flwyddyn ddiwethaf, gan arbed £71,000 mewn costau ynni ar draws 5 awdurdod lleol. Mae 707 o gartrefi wedi elwa ar y prosiect gyda dros 320 o bobl yn gwneud arbedion enfawr yn dilyn y broses syml o newid darparwr.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bob aelod o staff fu'n ymwneud â'r prosiect, a chyflwyno ein gwasanaeth Cyngor ar Ynni newydd i drigolion a grëwyd diolch i lwyddiant tîm Cam wrth Gam. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am y ffordd y gall y gwasanaeth hwn eich helpu i arbed arian ac ynni yn eich cartref.


Yn ôl i newyddion