Gallwch nawr gysylltu gyda ni ar WhatsApp
Efallai eich bod eisoes yn defnyddio WhatsApp i gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau. Os yw’r ap gennych ar eich ffôn, gwnewch nodyn o’n rhif WhatsApp ni +447830365910. Bydd aelod o’n Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yno i ateb eich negeseuon yn ystod oriau swyddfa, Llun – Gwener, 8am hyd at 5pm.
Ysgrifennwyd gan Sam
—02 Chwef, 2021
![Whatsapp Logo](/assets/articles/_content800/whatsapp.png)
Os oes gennych gwestiwn am eich rhent, os ydych eisiau adrodd am waith trwsio, trefnu ymweliad neu os ydych eisiau gweld pryd y mae’n amser i wasanaethu eich cyflenwad nwy, anfonwch neges atom ar WhatsApp.
Pam defnyddio WhatsApp?
- Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio
- Byddwch yn derbyn hysbysiad i adael i chi wybod ein bod gweld y neges
- Gallwch gysylltu gyda ni ar unwaith lle bynnag yr ydych heb orfod aros ar y ffôn.
Newydd i WhatsApp? Os nad yw’r ap gennych eisoes, gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn symudol neu gyfrifiadur. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan WhatsApp.