Yn ôl i newyddion

Gemau cynhyrchu

Efallai nad gemau peli chwyddadwy a rhigymau yw’r pethau rydych yn eu disgwyl wrth i chi gerdded i mewn i gynllun gofal ychwanegol.

Ysgrifennwyd gan Sam

12 Maw, 2019

Gemau cynhyrchu
Efallai nad gemau peli chwyddadwy a rhigymau yw’r pethau rydych yn eu disgwyl wrth i chi gerdded i mewn i gynllun gofal ychwanegol. Ond, yn ein cynllun yng Nghwmbrân, Tŷ George Lansbury, dyna beth fyddwch yn ei weld, wrth i blant tair a phedair oed gyfarfod gyda’u cyfeillion sydd hyd at 90 o flynyddoedd yn hŷn na nhw.
“Mae eu hymweliadau yn anhygoel. Mae’n codi calon go iawn,” meddai un o drigolion Tŷ George Lansbury Ann Burnett. Bob pythefnos, mae’r plant yn cerdded i fyny’r lôn i’r cynllun gofal ychwanegol gerllaw, tynnu eu cotiau ac eistedd gyda’u ffrindiau hŷn yn barod am ba bynnag weithgaredd sydd wedi ei drefnu ar eu cyfer.
Maent yn ffurfio timau ac yn cychwyn ar y gemau. Taflu cylchoedd dros dargedau ac anelu bagiau ffa i mewn i dyllau triongl caws mawr chwyddadwy. Ar ôl penderfynu ar y tîm buddugol maent yn dwyn eu sesiwn 45 munud i ben gyda chaneuon ac ambell i rigwm, gyda’r symudiadau.
Meddai Perchennog a Rheolwr Meithrinfa Two Counties, Lesley Price: “Mae’n anrhydedd bod Tŷ George Lansbury yn ein cynorthwyo i ddarparu cyfle i wahanol genedlaethau ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau, eu gwybodaeth a’u sgiliau sy’n beth da i bawb ac rydym yn edrych ymlaen at lunio perthynas gadarnhaol hirdymor.”
Ychwanegodd y Cyd-gysylltydd Byw’n Annibynnol yn Nhŷ George Lansbury, Lianne Goodall: “Mae cyfeillgarwch gwych yn datblygu ers i’r plant ddechrau ymweld. Mae’r ymweliadau mor fuddiol i’r trigolion, sy’n mwynhau’r cwmni ac maent bob amser yn chwarae rhan lawn ac maent yn symud mwy yn ystod yr ymweliadau. Y duedd yw eistedd yn eu cadeiriau a sgwrsio, ond mae’r gemau yn eu hysgogi i symud, ac maent yn mwynhau hyn yn fawr. Mae’r ymweliadau hefyd yn helpu i drechu unigedd ac mae pawb yn gwenu o’r funud maent yn cerdded i mewn drwy’r drws.”

Yn ôl i newyddion