Yn ôl i newyddion

Gochelwch rhag Gwmnïau Ynni Twyllodrus

Rydym yn gofyn i drigolion fod yn ofalus pan fyddant yn cael galwadau gan gwmnïau ynni sy’n honni eu bod ‘yn gweithio gyda Melin’ pan ddaw’n fater o arbed arian ar filiau ynni.

Ysgrifennwyd gan Marcus

12 Medi, 2017

Rydym yn gofyn i drigolion fod yn ofalus pan fyddant yn cael galwadau gan gwmnïau ynni sy’n honni eu bod ‘yn gweithio gyda Melin’ pan ddaw’n fater o arbed arian ar filiau ynni. Yn ddiweddar rydym wedi cael enghreifftiau o werthwyr ynni sy’n honni eu bod yn ‘gweithio gyda Melin a holl gymdeithasau tai eraill’ pan fo trigolion wedi bod yn siarad gyda’n cynghorydd ynni. Nid yw hyn yn wir. Rydym yn rhoi cyngor diduedd i drigolion yn seiliedig ar sut medrent arbed arian ar eu biliau ynni, ond nid ydym yn gysylltiedig ag unrhyw gwmni ynni penodol. Os ydych angen cyngor diduedd am ddim, cysylltwch â’r tîm heddiw ar 01495 745910 neu moneyadvice@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion