Yn ôl i newyddion

Atgyweiriadau Cyffredinol ac Argyfwng

Mae Melin yn gyfrifol am gynnal a chadw eich cartref ac unrhyw fannau a rennir os ydych chi’n byw mewn fflat neu gynllun gwarchodedig. Gall trigolion Melin ddweud wrthym am atgyweiriadau y byddwn wedyn yn eu gosod mewn un o ddau gategori: cyffredinol ac argyfwng. Dyma mwy o wyboadaeth...

Ysgrifennwyd gan Will

11 Ion, 2023

Darlun o dap yn diferu

Ein bwriad yw cwblhau atgyweiriadau cyffredinol o fewn 28 diwrnod o gael gwybod amdanyn nhw, a datrys argyfyngau o fewn 24 awr. Gall fod oedi wrth aros am ddarnau peirianyddol ac wrth aros i’n timau fod ar gael. Byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i atgyweiriadau brys o flaen atgyweiriadau cyffredinol. Weithiau bydd angen dilyn atgyweiriad brys, a fydd yn gwneud eich cartref yn ddiogel, gydag atgyweiriad cyffredinol mwy parhaol. ­

Cofiwch os gwelwch yn dda bod ein timau atgyweirio’n brysur iawn yn ystod y gaeaf. Felly, efallai bydd ymestyn ar y cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer atgyweiriadau cyffredinol wrth i’n staff weithio trwy’r rhestr o atgyweiriadau’r gaeaf. Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth ein trigolion pan fo hyn yn digwydd.

Weithiau mae trigolion yn ceisio dweud am atgyweiriadau brys ar ôl hanner nos neu yn oriau mân y bore. Byddwn yn ymateb i atgyweiriadau brys cyn gynted ag y gallwn, ond bydd hyn fel arfer yn ystod y dydd neu yn yr hwyr. Os bydd argyfwng gyda chi sy’n berygl bywyd yna dylech chi gysylltu â’r gwasanaethau brys neu asiantaethau perthnasol eraill. (e.e. gollwng nwy; tân.)

Weithiau mae trigolion yn ceisio dweud am atgyweiriadau brys ar ôl hanner nos neu yn oriau mân y bore. Byddwn yn ymateb i atgyweiriadau brys cyn gynted ag y gallwn, ond bydd hyn fel arfer yn ystod y dydd neu yn yr hwyr. Os bydd argyfwng gyda chi sy’n berygl bywyd yna dylech chi gysylltu â’r gwasanaethau brys neu asiantaethau perthnasol eraill. (e.e. gollwng nwy; tân.)

Mae’r tablau isod yn dangos rhai atgyweiriadau cyffredinol ac argyfwng fel y gallwch chi ddweud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw. Dyw’r rhestrau yma ddim yn gyflawn ac rydym ni’n gwybod nad yw atgyweiriadau bob amser yn ddu a gwyn, felly, os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â ni.

Atgyweiriadau cyffredinol:

  • Cwteri a ffosydd wedi eu blocio
  • Gosodiad trydan wedi torri (e.e. golau)
  • Tap yn gollwng
  • Gosodiad yn y gegin wedi torri
  • Ffan echdynnu wedi torri
  • Ffens yn yr ardd wedi torri (dim perygl i ddiogelwch o’r herwydd )
  • Dolen wedi torri ar ffenest (dim perygl i ddiogelwch o’r herwydd)

­

Atgyweiriadau argyfwng:

  • Colli dŵr poeth yn eich cartref yn llwyr
  • Colli trydan yn eich cartref yn llwyr
  • Dŵr yn gollwng a difrod difrifol gan ddŵr
  • Nenfwd wedi dymchwel
  • Gwifrau trydan yn y golwg
  • Difrod ar ôl torri i mewn
  • Difrod gan storm yn peryglu diogelwch

Mae yna rai atgyweiriadau brys ble bydd angen i chi gysylltu â sefydliadau eraill yn gyntaf, sef:

Gollwng Nwy – os ydych chi’n gallu arogli nwy, dylech gysylltu â Wales & West Utilities ar 0800 111 999. Dylech ddiffodd pob dyfais neu offer nwy, agor ffenestri a drysau ac yna cysylltu â ni.

Toriad Trydan – os yw eich cymdogaeth wedi ei heffeithio gan doriad trydan, dylech fynd at wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol am fwy o wybodaeth. Os mai dim ond eich cartref chi sydd wedi ei effeithio, cysylltwch â ni.

Dŵr yn Gollwng - os oes dŵr yn gollwng o’r brif biben (piben wedi hollti) yn eich stryd neu os nad yw eich cymdogaeth yn derbyn dŵr, dylech gysylltu â Dŵr Cymru ar 08000 520 130, yna cysylltu â ni.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld