Yn ôl i newyddion

Gwahoddiad brenhinol i Is-gadeirydd Panel y Trigolion

Mae Mark Gibbons, Is-gadeirydd Panel y Trigolion wedi derbyn gwahoddiad arbennig iawn yn ddiweddar; i fynychu Parti Gardd ym Mhalas Buckingham.

Ysgrifennwyd gan Marcus

12 Mai, 2016

Mark Gibbons
Mae Mark Gibbons, Is-gadeirydd Panel y Trigolion wedi derbyn gwahoddiad arbennig iawn yn ddiweddar; i fynychu Parti Gardd ym Mhalas Buckingham. Bob haf, mae'r Frenhines yn cynnal tri Pharti Gardd ym Mhalas Buckingham fel ffordd o gydnabod a gwobrwyo gwasanaeth cyhoeddus haeddiannol. Mae pobl o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn cael eu gwahodd i'r digwyddiad brenhinol bob blwyddyn, ac maent yn cael eu dewis am eu cyfraniadau mawr i fywyd yn y gymuned neu am ddarparu gwasanaeth eithriadol. Cafodd Mark ei wahodd fel arwydd o ddiolch, oherwydd ei ymroddiad i wirfoddoli ac i gydnabod ei arbenigedd yn gyrru cerbyd. Bydd y parti yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 24 Mai a bydd Ei Mawrhydi Y Frenhines, Dug Caeredin ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol yno i'w croesawu. Gall gwesteion fwyta, yfed a chrwydro o amgylch gerddi'r Palas, tra bod y Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol yn siarad â'u gwesteion a dysgu mwy am y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Dywedodd Mark ei fod yn anrhydedd iddo gael ei wahodd, a bod y digwyddiad wedi ei gyffroi yn fawr. "Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod Ei Mawrhydi a chynrychioli Panel y Trigolion. Nid y fi sy'n bwysig ond y bobl yr ydym yn eu helpu. Rwyf yn gwirfoddoli oherwydd yr wyf am helpu pobl i gael llais yn eu cymuned "meddai. Byddwn yn sgwrsio â Mark ar ôl y parti i gael gwybod popeth am yr achlysur!

Yn ôl i newyddion