Yn ôl i newyddion

Gwobr i brosiect am daclo trais yn y cartref

Roeddem yn rhan o brosiect a ddatblygwyd gan grŵp o ddarparwyr tai yng Ngwent a wobrwywyd am ei ddull creadigol o daclo trais yn y cartref.

Ysgrifennwyd gan Sam

16 Hyd, 2018

Gwobr i brosiect am daclo trais yn y cartref
Roeddem yn rhan o brosiect a ddatblygwyd gan grŵp o ddarparwyr tai yng Ngwent a wobrwywyd am ei ddull creadigol o daclo trais yn y cartref.

Dyfarnwyd gwobr Pat Chown – Capturing Creativity i brosiect 'Byw Heb Ofn' gan Dai Cymunedol Cymru am ddatblygu porth ar y we y gallai staff ei ddefnyddio pan fyddent yn ymateb i adroddiadau, digwyddiadau a datgeliadau trais yn y cartref.

Mae landlordiaid cymdeithasol sy'n rhan o'r prosiect yn cynnwys Tai Cymunedol Bron Afon, Tai Siarter, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cartrefi Melin, Tai Sir Fynwy, Cartrefi Dinas Casnewydd, Cymdeithas Tai Unedig Cymru, Derwen Cymru a Thai Cymunedol, Tai Calon.

Sefydlwyd partneriaeth Bys Heb Ofn i sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol i denantiaid tai cymdeithasol yng Ngwent sy'n dioddef trais yn y cartref. Gyda'i gilydd fe ariannodd ymchwil a datblygu pecyn cymorth ar bapur, ond yna sylweddolwyd nad oedd hyn yn ymarferol i'r staff gario gyda hwy. Datblygwyd porth gwe www.freefromfear.wales yn 2017, gyda chefnogaeth arian a ddaeth i law gan raglen VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) Llywodraeth Cymru. Mae'r wefan yn darparu adnodd ar-lein i staff tai ar ffonau smart, tabledi a gliniaduron.

Dywedodd llefarydd ar ran partneriaeth Byw Heb Ofn, Gwent "Rydym yn hynod ddiolchgar i dderbyn gwobr Pat Chown. Mae prosiect Byw Heb Ofn yn arwain y ffordd yng Nghymru o ran delio â thrais yn y cartref yn y sector tai. Mae'r pecyn cymorth ar-lein bellach yn cael ei fabwysiadu gan ddarparwyr tai ledled Cymru, gan helpu mwy o bobl i fyw heb ofn."

Sefydlwyd gwobr Capturing Creativity ddeunaw mlynedd yn ôl gan Gymdeithas Tai Cymru er cof am Pat Chown, ffigur sylweddol yn y sector tai yng Nghymru a ymrwymodd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. Mae'r wobr yn cydnabod arloesi a syniadau newydd i ddelio â phroblemau cyffredin. Yn ogystal â'r wobr, derbyniodd partneriaeth Byw Heb Ofn, Gwent rhodd o £1,000 ar gyfer yr elusen o'u dewis, sef Cymorth i Ferched Cymru.

Yn ôl i newyddion