Yn ôl i newyddion

Helpwch ni i lunio ein gwasanaethau am y pum mlynedd nesaf

Rydym yn gwybod mai ein cwsmeriaid yw’r bobl orau i’n helpu ni i lunio a gwella ein gwasanaethau. Rydych chi yn gwybod yn union pan fydd pethau’n mynd yn iawn a lle gellir gwella. Rydym nawr yn cynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf (2023 to 2027) ac rydym eisiau i chi rannu eich syniadau a dweud wrthym beth sydd angen i ni ganolbwyntio arno yn eich barn chi.

Ysgrifennwyd gan Fiona

30 Mai, 2022

Darlun o bum seren

Yr hyn rydych eisoes wedi ei ddweud

Rydym wedi cael llawer o adborth yn barod gan ein cwsmeriaid: o’r arolwg STAR diweddar, arolygon boddhad cwsmeriaid a phan fyddwch yn siarad gyda’n staff. Dyma’r hyn ydych chi eisoes wedi ei ddweud wrthym:

Yr hyn rydym yn ei wneud yn dda

  • Rydych yn dweud eich bod yn hapus gyda’n gwaith cynnal a chadw wedi ei gynllunio (e.e. adnewyddu ceginau, gwasanaethu cyfarpar nwy a thrydan).
  • Mae trigolion newydd yn dweud wrthym eu bod yn hapus gyda safon eu cartref pan fyddant yn symud i mewn. 
  • Mae pobl sy’n symud i mewn i gartrefi newydd eu hadeiladu yn dweud eu bod yn hapus gyda’r broses o gofrestru fel tenantiaid a gydag ansawdd eu cartref newydd.  
  • Rydych yn dweud bod y staff trin galwadau rydych yn siarad gyda nhw ar y ffôn yn gymwynasgar, yn gwrtais, caredig ac yn deall. 

Beth allen ni ei wneud yn well

  • Gall ein gwasanaeth cynnal a chadw a thrwsio fod yn araf a gallai cyfathrebu fod yn well.
  • Rydych yn dweud wrthym nad ydych mor hapus gyda’ch cymdogaeth fel lle i fyw oherwydd ymddygiad trigolion landlordiaid eraill. 
  • Nid ydych yn meddwl bod ein taliadau gwasanaeth yn cynnig gwerth da am arian. 
  • Pan fyddwch yn defnyddio dulliau digidol (ebost er enghraifft) i gysylltu â ni, rydych yn llai bodlon gyda’r canlyniad na phan fyddwch yn cysylltu â ni ar y ffôn

Cyfleoedd at y dyfodol

  • Gwneud eich cymdogaeth yn lle gwell i fyw.
  • Gwneud rhedeg eich cartref yn fwy fforddiadwy.
  • Cynnal a chadw a thrwsio – roeddem yn arfer gwneud hyn yn well. Beth sydd wedi newid? 
  • Beth allwn ei wneud i wneud i chi feddwl ein bod yn gwrando arnoch yn well? 
  • Gwell cyfathrebu digidol.

Rhwystrau, pethau a allai fod ar ffordd o ran cael y newidiadau rydych eisiau eu gweld

  • Pwysau costau byw ar ein trigolion.
  • Cost gwneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithiol.  
  • Pwysau gan y llywodraeth.
  • Cynnydd mewn costau benthyca.
  • Cost deunyddiau sydd eu hangen i adeiladu cartrefi newydd a thrwsio cartrefi presennol yn mynd i fyny.
  • Anhawster recriwtio gweithlu gyda’r sgiliau gofynnol.

Felly, beth nawr?

Cwblhewch ein ffurflen

Hoffem ni i chi leisio eich barn drwy gwblhau ein ffurflen arlein. Dim ond chwe cwestiwn sydd yna i’w hateb. Bydd yr arolwg ar agor yn ystod mis Mehefin 2022.

Cliciwch y ddolen hon i gwblhau’r arolwg.

Ymunwch â sesiwn galw heibio

Neu gallwch ddod i sgwrsio gyda ni yn bersonol. I gael gwybodaeth ar ein sesiynau galw heibio, a lle mae’r un agosaf atoch chi, edrychwch ar ein herthygl Digwyddiadau.

Ar y ffôn

Gallwch hefyd ein ffonio. Pan fyddwch yn cysylltu â ni bydd un o’n gweithredwyr yn gofyn os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg ar lunio’r dyfodol.

Os hoffech i ni eich ffonio chi er mwyn i chi allu sgwrsio am hyn, cysylltwch â ni.

Dewch i sgwrsio gyda ni arlein

30ain Mehefin 6–7pm ar Facebook Live – ymunwch â’n tudalen Facebook ar y dyddiad hwn i ofyn cwestiynau neu gyflwyno eich syniadau.

6ed Gorffennaf 5–7pm ar Zoom – anfonwch ebost i gael y manylion news@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld