Yn ôl i newyddion

Banciau Bwyd Yn Ystod yr Argyfwng Costau Byw

Mae llawer o’r ffocws yn ystod yr argyfwng Costau Byw wedi bod ar y cynnydd yng nghost nwy a thrydan, ond rydym yn gwybod bod prisiau hanfodion y cartref wedi codi eleni. Mae effaith wedi bod yn arbennig ar y bwydydd mwyaf sylfaenol, gan gynnwys bara, pasta, nwyddau tun, cynhyrchion llaeth a chig. O ganlyniad, mae mwy o bobol nag erioed o’r blaen yn troi at fanciau bwyd am gymorth, felly rydym am roi sylw i’r cymorth sydd ar gael.

Ysgrifennwyd gan Will

12 Hyd, 2022

Sut i gael mynediad i fanc bwyd

Mae banciau bwyd yn cael eu rhedeg fel arfer gan elusennau neu sefydliadau cymunedol ac maen nhw’n gallu helpu pobl sy’n cael trafferth fforddio bwydo’u hunain a’u teuluoedd. Dyw hi ddim yn hawdd gofyn am gymorth gan fanc bwyd ac ambell waith mae yna waith papur, felly rydym am esbonio’r broses i chi a dangos i chi bob cymorth ar gael.

Fel un o drigolion Melin, os ydych chi’n cael trafferth â bwyd, neu’n gyffredinol gyda’ch arian, dylech gysylltu â ni yn gyntaf. Bydd hyn yn ein galluogi ni i edrych ar eich sefyllfa a chreu cynllun i’ch helpu.

Mae hyn hefyd yn bwysig er mwyn cael defnydd o fanciau bwyd, gan y bydd y rhan fwyaf o fanciau bwyd yn gofyn eich bod wedi cael atgyferiad. Mae atgyfeiriad gan sefydliad cydnabyddedig (fel Melin) yn golygu bod eich sefyllfa wedi cael ei hasesu’n annibynnol a byddwch yn gymwys am help gan fanc bwyd. Mae’r rhan fwyaf o fanciau bwyd yn gofyn i chi gael atgyfeiriad, dyma pam ei fod yn bwysig cysylltu â ni cyn ceisio help.

Cofiwch, os byddwch yn cysylltu â Melin yn chwilio am help, byddwch yn trin eich achos yn gyfrinachol. Ni fydd yn effeithio ar eich tenantiaeth ac ni fyddwn yn trosglwyddo’ch manylion at unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd.

Unwaith bydd gennych atgyfeiriad oddi wrth Melin, gallwch fynd at eich banc bwyd lleol. Ymddiriedolaeth Trussell yw rhwydwaith banciau bwyd mwyaf y DU ac maen nhw’n gweithredu ym mhob un o gymunedau Melin. Isod, rydym wedi rhoi dolenni at wefan Ymddiriedolaeth Trussell ble mae gwybodaeth gyswllt, lleoliad ac oriau agor ar gyfer eu banciau bwyd i gyd yn ein rhanbarth.

(Nodwch os gwelwch yn dda, bydd y dolenni i gyd ar y dudalen yma’n mynd â chi at wefannau allanol. Mae’r holl wybodaeth yn gywir ar adeg cyhoeddi. Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda os nad yw dolen yn gweithio: news@melinhomes.co.uk)

Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell
Blaenau Gwent

Banciau Bwyd Blaenau Gwent

Sir Fynwy

Banc Bwyd y Fenni

Banc Bwyd Trefynwy

Banc Bwyd Cas-gwent

Casnewydd

Banc Bwyd Casnewydd

Banc Bwyd Rhisga

Powys

Banc Bwyd Aberhonddu

Banc Bwyd Llandrindod

Torfaen

Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol

Mae yn fanciau bwyd eraill y gallwch eu defnyddio, rhai ohonynt heb atgyfeiriad. Isod, rydym wedi gosod dolenni at fanciau bwyd ychwanegol yn ein rhanbarth.

Banciau Bwyd Eraill ac Oergelloedd Cymunedol
Blaenau Gwent

Eglwys Victory, Blaenau Gwent

Sir Fynwy

Oergelloedd Cymunedol Sir Fynwy

Casnewydd

Feed Newport

Pantri Bwyd Maendy

Ymddiriedolaeth Raven House

Torfaen

Helping Hands R Us

Hwb Rhannu Bwyd Croesyceiliog

Yn ogystal â chymorth gan fanciau bwyd ac oergelloedd cymunedol, rydym wedi casglu rhai dolenni isod ar gyfer cynigion bwyd a bwyta allan yn rhad.

Cynigion Arbennig

Kids eat free at Morrisons café

Asda soup and roll plus unlimited hot drinks for £1

Iceland over 60s 10% discount every Tuesday

‘Too Good to Go’ an app that lets you buy cheap left over food from shops, bakeries and restaurants

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld