Yn ôl i newyddion

Hwb ariannol i ymgais her y contractwyr

Mae Cartrefi Melin wedi cefnogi aelodau staff Robert Price yn eu hymdrech i godi arian ar gyfer dwy elusen yng Nghymru drwy ymgymryd â her 50 milltir.

Ysgrifennwyd gan Sam

06 Gorff, 2016

Hwb ariannol i ymgais her y contractwyr
Mae Cartrefi Melin wedi cefnogi aelodau staff Robert Price yn eu hymdrech i godi arian ar gyfer dwy elusen yng Nghymru drwy ymgymryd â her 50 milltir. Aeth tîm cymunedau Melin ati i gefnogi'r herwyr gyda hwb ariannol o £150 fydd o fudd i elusen iechyd meddwl Mind ym Mlaenau Gwent a Thorfaen. Bydd y tîm o Robert Price hefyd yn ychwanegu at y swm hwnnw a bydd yr arian y maent yn ei godi hefyd yn mynd tuag at Ymchwil Canser Cymru.
Gorchwyl 12 awr flinedig oedd Her Elusennau Robert Price 2016 gyda staff yn cerdded o Aberhonddu i Ferthyr, dros Pen-y-Fan, yna'n seiclo i Fae Caerdydd - pellter o dros 50 milltir i gyd!
Meddai Molly Pike, rheolwr marchnata a threfnydd yr her: "Am ganlyniad! Ymdrech digynsail gan y tîm cyfan a wnaeth y diwrnod yn un ffantastig. Ni wnaeth hyd yn oed y tywydd Cymreig rhagweladwy ein dal yn ôl. ".

Os hoffech chi noddi tîm Her Robert Price i gefnogi Mind Torfaen mae’r manylion isod:
https://mydonate.bt.com/fundraisers/rptour

Neu, os hoffech chi eu noddi i gefnogi Ymchwil Canser, mae’r manylion yma:
https://www.justgiving.com/rptour

Yn ôl i newyddion