Yn ôl i newyddion

Hwyl Kolor Dash!

Ein helusen yn 2019 yw Gofal Hosbis Dewi Sant. Fel rhan o’n hymrwymiad i’r elusen wych yma, rydym wedi bod yn noddi rhai o’u digwyddiadau a digwyddiad Kolor Dash dydd Sul diwethaf oedd y gorau eto!

Ysgrifennwyd gan Fiona

21 Mai, 2019

Hwyl Kolor Dash!
Ein helusen yn 2019 yw Gofal Hosbis Dewi Sant. Fel rhan o’n hymrwymiad i’r elusen wych yma, rydym wedi bod yn noddi rhai o’u digwyddiadau a digwyddiad Kolor Dash dydd Sul diwethaf oedd y gorau eto!

Diolch yn fawr iawn i’n staff a’u teuluoedd; Sam, Ayla, Emyr, Val, Lucia ac Ashleigh am wirfoddoli. Nhw oedd yn staffio’r orsaf bowdr gyntaf a’r orau a nhw yn sicr oedd y tîm mwyaf llwyddiannus o ran gorchuddio rhedwyr a cherddwyr.

Roedd gennym hefyd bresenoldeb Melin gwych o ran cyfranogwyr. Da iawn Trish, Sam, Katie, Sharon, Katie, Jill, Rhi, Ceri , Oliver, Elliot, Caroline, Dylan, Fiona, Morgan, Fletcher a Harri.



image-2019-05-21_(2).png

Diolch i’n staff, ffrindiau a theulu a gefnogodd y digwyddiad trwy gyfrannu i’n tudalen codi arian; ein cyfanswm newydd yw £1,383.44. Os hoffech gyfrannu a dangos eich cefnogaeth i’n helusen am y flwyddyn, ewch i’n tudalen codi arian yma.

Y digwyddiad nesaf rydym yn ei noddi yw Reid Feicio Dalmatian; mae ein Prif Swyddog Paula Kennedy, a’r aelodau staff Sarah Felvus, Rachel Price a Mike Harris yn beicio 45 milltir anodd!

Yn ôl i newyddion