Yn ôl i newyddion

Llety gwarchod ar gael

Mae’r ystafell glyd, lân hon mewn fflat stiwdio gyda golygfeydd yn agos at fwynderau lleol yng Nglyn Ebwy

Ysgrifennwyd gan Sam

24 Hyd, 2017

Llety gwarchod ar gael
Mae gan y fflat, sydd yng nghynllun gwarchod Llys Ebwy yn y dref, gegin fodern ac ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn, ynghyd ag ystafell fyw braf gyda lle ar gyfer set dridarn o ddodrefn a gwely dwbl. Mae’n cynnig cymorth rheolwr y cynllun yn ystod oriau swyddfa a system larwm argyfwng. Ar gael i bobl dros 55 sydd ar restr aros am tŷ Blaenau Gwent am ychydig dros £144 yr wythnos gan gynnwys biliau dŵr a gwresogi. Os oes gennych ddiddordeb, rhaid i chi gofrestru gyda Thai Blaenau Gwent, neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Liz ar 01495 304149.

Yn ôl i newyddion