Yn ôl i newyddion

Llyfr i’r Nadolig

Mae aelod o’n bwrdd a’n panel trigolion Lyndon May wedi cyhoeddi ei ail lyfr i godi arian at ymchwil i gancr y brostad.

Ysgrifennwyd gan Marcus

19 Rhag, 2016

Lyndon May
Mae aelod o’n bwrdd a’n panel trigolion Lyndon May wedi cyhoeddi ei ail lyfr i godi arian at ymchwil i gancr y brostad. Cafodd ei annog i ysgrifennu pan ddaeth yn dad-cu a defnyddiodd atgofion o’i blentyndod ym Mhont-y-pŵl fel sail i straeon ar gyfer ei wyrion.

Ysgrifennodd fersiwn cyntaf My Mate Timmy (The Friendly Troll) ar dudalennau A4 ac aeth a’i wyrion hyd yn oed ar deithiau cerdded i fyny’r Barley i edrych am y lle yr oedd Timmy’n arfer byw. Ar ôl cyrraedd 70 llynedd, trefnodd ei ferched i gyhoeddi’r llyfr fel anrheg pen-blwydd.

Nawr mae wedi creu stori nadoligaidd ble mae Siôn Corn a’i gorachod a’i dylwyth teg yn derbyn help ychwanegol gan Timmy.

Bydd yr elw o’r gwerthiant yn mynd i Felindre ac yn codi arian ar gyfer ymchwil i gancr y brostad. Mae’r elusen yma yn agos at galon Lyndon gan fod cyfaill iddo yn derbyn triniaeth ar gyfer cancr y brostad ar hyn o bryd yn y ganolfan. Cododd My Mate Timmy £120 a gallwch brynu’ch copi o Timmy working for Santa ar Amazon.

Yn ôl i newyddion