Yn ôl i newyddion

Louise Kingdon

Bydd Louise Kingdon yn wyneb cyfarwydd i lawer ohonoch sydd wedi elwa ar ei harbenigedd digidol. Nawr mae ein ‘guru’ Cynhwysiant Digidol wedi cael ei henwebu fel un o dri ‘Rising Stars’ ifanc yn seremoni wobrwyo Sefydliad Siartredig Tai. Mae Louise yn ymuno â Donna Williams o Gartrefi NPT a Jamie Roberts o Gartrefi Dinas Casnewydd. Eleni, gwelsom y nifer uchaf erioed o enwebeion i'r Rising Stars Cymru - gwobrau ar gyfer pobl Broffesiynol Tai Newydd. "Adborth y barnwr oedd mai dyma’r ceisiadau o’r safon uchaf erioed!"

Ysgrifennwyd gan Sam

07 Ebr, 2016

Louise

Gofynnwyd i’r ymgeiswyr gyflawni’r dasg o ysgrifennu traethawd, ac ysgrifennodd Louise ymateb ar gyfer y cwestiwn canlynol; Pam fod amrywiaeth ar draws y gweithlu yn bwysig, a pha syniad newydd sydd gennych i wella amrywiaeth o fewn arweinyddiaeth tai yng Nghymru?

Bydd yr ymgeiswyr yn canfasio am bleidleisiau ar gyfryngau cymdeithasol a bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu ar ôl pleidlais yn y Gynhadledd TAI ym mis Ebrill. Pob lwc Louise!

Yn ôl i newyddion