Yn ôl i newyddion

Digwyddiad Caru eich Iechyd a Lles

Yr wythnos hon fe wnaethom gynnal 'digwyddiad caru eich iechyd a lles' i drigolion ein cynllun. Roedd y diwrnod yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd am y tro cyntaf ers 2019, am ddiwrnod llawn hwyl gyda rhywbeth i bawb, a hynny’n canolbwyntio ar iechyd a lles.

Lleoliad:

17 Chwef, 2023

Lluniau o'r digwyddiad

Cafodd y trigolion gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau difyr gydag Animals Interactive. Cawsant gyfle i gwrdd â nadroedd, madfallod, mirgathod, drewgwn, cwningod, moch cwta a hyd yn oed llwynog arian. Dangoswyd bod rhyngweithio ag anifeiliaid yn lleihau lefelau cortisol (hormon sy'n gysylltiedig â straen) a gostwng pwysedd gwaed. Mae astudiaethau eraill wedi darganfod bod anifeiliaid yn gallu lleihau unigrwydd, cynyddu teimladau o gefnogaeth gymdeithasol, a rhoi hwb i'ch hwyliau. Mae gweld wynebau ein trigolion yn dweud wrthym mai dyna yn union ddigwyddodd.

Roedd cyfleoedd hefyd i’r trigolion gymryd rhan mewn badminton, tennis bwrdd, sesiynau crefft neu ymlacio gyda thriniaeth gyfannol. Buodd ein Tîm Cymunedau yn diddanu trigolion gyda bingo, raffl am ddim, ac fe wnaeth Will ein cwis feistr gwych ddod ag ochr gystadleuol pawb i’r amlwg, gyda chwis.

Yn ogystal â lluniaeth, fe wnaeth pawb fwynhau cinio bwffe a chael cwrdd â Brock, ci therapi anifeiliaid anwes, lleol. Rydyn ni'n gwybod ei fod wedi mwynhau, am ei fod wedi gwenu wrth wneud ei ffordd o gwmpas. Roedd wrth ei fodd yn cwrdd â phawb, gwelsom ychydig o bobl hyd yn oed yn bwydo selsig iddo!

Diolch o waelod calon i’n partneriaid Dragons Community a County in the Community am y gefnogaeth gyda gemau a heriau difyr. Cafodd y trigolion diwrnod i'r brenin.

Mwynheuodd ein trigolion y gweithgareddau

Fe wnaeth un o’r trigolion yn ein cynllun Howell Griffiths hyd yn oed rhoi galwad ffôn i ni ar ôl y digwyddiad, i ddweud diolch;

“Cefais ddiwrnod syfrdanol heddiw, roedd y bwyd yn wych, y staff yn anhygoel ac roedd yr anifeiliaid yn ffantastig.”

Resident — Cwrt Howell Griffiths

Cadw'r dyddiad...

Bydd ein Digwyddiad Caru Eich Iechyd a Lles yn ol, flwyddyn nesa, ar 14 Chwefror 2024.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld