Yn ôl i newyddion

Mae Gofal a Thrwsio yn Deall Dementia

Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen wedi ei gydnabod am ei waith ar ddod yn gyfundrefn sy’n deall dementia, gyda chyflwyniad logo Cymdeithas Alzheimer gan gynghorwyr lleol.

Ysgrifennwyd gan Sam

20 Tach, 2017

Mae Gofal a Thrwsio yn Deall Dementia
Roedd y cyflwyniad yn cydnabod gwaith yr asiantaeth o ran creu cyfundrefn sy’n deall dementia a darparu gwasanaethau cynhwysol a chefnogol i bobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Mewn digwyddiad ddydd Gwener ddiwethaf, 17eg Tachwedd, ym mhencadlys Pont-y-pŵl Cartrefi Melin, rhoddodd y Cynghorwyr Mandy Owen o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Penny Jones o Gyngor Sir Fynwy gymeradwyaeth Cymdeithas Alzheimer i’r tîm. Fel rhan o’r digwyddiad, cawsant glywed sut roedd gwaith Gofal a Thrwsio yn anelu at greu cymunedau sy’n fwy cyfeillgar i ddementia.
Mae’r holl staff yn yr asiantaeth wedi cael cwrs ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia ac mae gweithwyr achos wedi dilyn cwrs achrededig ‘Camu i mewn i Ddementia’ i’w galluogi i ddeall effeithiau’r salwch yn well.
Mae’r asiantaeth yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Gyfeillion Dementia a’r gwasanaethau sydd ar gael i helpu cynorthwyo’r sawl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr mewn amrywiol sgyrsiau grŵp, digwyddiadau hyrwyddo ac yn ystod ymweliadau cartref. Maent hefyd yn bwriadu gweithio gyda’u contractwyr dethol i’w hannog hwythau i gael hyfforddiant Deall Dementia. Diolch i’r gwaith maent yn ei wneud gyda’r awdurdodau lleol, maent yn medru gosod offer teleofal a thechnoleg gynorthwyol yng nghartrefi pobl hŷn i’w helpu i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.
Meddai Rheolwr Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen Nicola Maule: “Yng Nghymru mae mwy na 45,000 o bobl yn byw gyda dementia a chan fod gennym boblogaeth sy’n heneiddio mae’r nifer yn debygol o gynyddu. Mae’n gwneud synnwyr ein bod fel cyfundrefn ofalgar yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaethau yn hygyrch. Mae’n hanfodol bod ein staff yn cael gwell dealltwriaeth o sut beth yw byw gyda dementia

Yn ôl i newyddion