Yn ôl i newyddion

Mae hyfforddiant yn cyflymu gwasanaeth

Mae hyfforddiant sy’n cael ei gyflawni gan staff Care and Repair yn golygu bod cleientiaid yn cael gwasanaeth cyflymach pan fydd angen addasiadau lefel isel arnynt.

Ysgrifennwyd gan Sam

26 Gorff, 2016

Mae hyfforddiant yn cyflymu gwasanaeth
Mae hyfforddiant sy’n cael ei gyflawni gan staff Care and Repair yn golygu bod cleientiaid yn cael gwasanaeth cyflymach pan fydd angen addasiadau lefel isel arnynt. Mae ein Gweithwyr Achos a Thechnegwyr Diogelwch yn y Cartref i gyd wedi cyflawni’r Cwrs Aseswr y gellir ymddiried ynddo, sy’n eu cymhwyso i’r un lefel â Therapydd Galwedigaethol Cynorthwyol. Gall y tîm nawr gyfeirio’n syth at ein technegwyr ar gyfer addasiadau lefel isel megis rheiliau gafael a hanner grisiau. Yn y gorffennol byddai’n rhaid iddynt fod wedi dilyn eu hymweliad gydag ymweliad arall gan aelod o’r gwasanaethau cymdeithasol, byddai yna’n gofyn i ni i osod y rheiliau neu risiau. Mae pobl hŷn yn awr yn cael gwasanaeth mwy effeithlon a llai o ymweliadau, sy’n golygu nid oes rhaid iddyn nhw aros mor hir ar gyfer eu mesurau diogelwch.

Yn ôl i newyddion