Yn ôl i newyddion

Mae Melin yn ystyriol o ddementia

Cydnabuwyd Cartrefi Melin am ei waith ar ddod yn sefydliad sy'n ystyriol o ddementia gyda chyflwyniad logo Cymdeithas Alzheimer gan Lynne Neagle AC Torfaen.

Ysgrifennwyd gan Sam

13 Gorff, 2016

Mae Melin yn ystyriol o ddementia

Cydnabuwyd Cartrefi Melin am ei waith ar ddod yn sefydliad sy'n ystyriol o ddementia gyda chyflwyniad logo Cymdeithas Alzheimer gan Lynne Neagle AC Torfaen.
Roedd y cyflwyniad yn cydnabod gwaith y gymdeithas dai o ran creu sefydliad sy'n ystyriol o ddementia a darparu gwasanaethau cynhwysol a chefnogol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Yn y digwyddiad nos Wener ddiwethaf, 8 Gorffennaf yn Nhŷ George Lansbury yng Nghwmbrân cafodd y gwesteion gyfle i ddysgu am waith Melin yn cynnwys hyfforddiant codi ymwybyddiaeth, sesiynau blwch cof, a llyfr i blant, gyda pob un ohonynt yn anelu i annog cymunedau i fod yn fwy ystyriol o ddementia.
Mae Shona Martin, Rheolwr Byw'n Dda, Cartrefi Melin, sydd wedi'u hyfforddi i fod yn gyfaill Dementia wedi darparu sesiynau chwalu mythau defnyddiol iawn i helpu’r staff i ddeall sut beth yw bywyd i berson sy'n byw gyda Dementia.

Mae Tîm Cymunedau'r Gymdeithas Tai yn defnyddio llyfr a ysgrifennwyd gan rieni Caerffili nad oeddent yn gwybod sut i egluro dementia i'w plant. Prynodd y tîm 20 o gopïau o'r llyfr sy'n dwyn yr enw 'The Elephant Who Forgot' i ledaenu'r gair ymhlith eu trigolion iau.
Mae pobl sy'n byw yng nghynlluniau cysgodol Melin wedi bod yn elwa ar sesiynau hel atgofion Blwch Cof y mae'r tîm wedi bod yn eu cynnal ar y cyd â'r gwasanaeth Amgueddfeydd.

Dywedodd Lynne Neagle AC Torfaen: "Mae hwn yn achos sydd yn agos iawn at fy nghalon ac rwyf yn angerddol drosto. Rwyf yn falch iawn o glywed bod Melin yn cymryd camau breision tuag at ddod yn sefydliad sy'n ystyriol o ddementia."

Meddai Mark Gardner, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: “Mae yna dros 42,000 o bobl yn dioddef o ddementia yng Nghymru a bod gennym boblogaeth sy’n heneiddio mae’r niferodd yn debygol o gynyddu. Mae’n gwneud synnwyr ein bod ni fel sefydliad sy’n gofalu, yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod ein holl staff ar y rheng flaen yn meddu ar ddealltwriaeth gwell o sut fath o beth yw bywyd i rywun sy’n dioddef o ddementia.”

Gallwch ddod o hyd i sesiynau Cyfeillion Dementia sydd yn agos i chi drwy ymweld â’r wefan.


Yn ôl i newyddion