Yn ôl i newyddion

Materion Gwaith

Mae ein Swyddogion Cyflogaeth wedi helpu nifer o drigolion i wella’u sgiliau a chael hyd i waith.

Ysgrifennwyd gan Sam

23 Meh, 2020

Melin logo. Rydyn ni yma i chi.
Mae’r Swyddogion Cyflogaeth ym Melin wedi gweithio’n agos gyda Sam a’i hyfforddwr gwaith ers dros flwyddyn.

Mae ein cefnogaeth wedi ei helpu i lwyddo yn ei brawf theori gyrru, gwersi gyrru ac, ymhen amser, ei drwydded gyrru. Mae hyn yn golygu ei fod wedi gallu cael gwaith gyda chwmni cadwyn o fwytai adnabyddus fel gyrrwr cludiant, ond mae e nawr wedi troi ei olygon at gael trwydded HGV.

Dywedodd Sam wrthym ni’n ddiweddar fod yr help y mae e wedi cael wedi ‘newid ei fywyd er gwell.’

Dywedodd wrth ein swyddog cyflogaeth, Aaron; “Mae Melin, fel sefydliad, yn wirioneddol unigryw.” Mae e’n ddiolchgar ei fod wedi gallu cael gwaith oherwydd iddyn nhw fuddsoddi ynddo a thrwy ei fod yn gallu gyrru, mae e gyfleoedd am waith wedi cynyddu hefyd.

Mantais arall, dywedodd, yw y gall nawr fynd â’i ferch allan ar benwythnosau a’u bod yn gallu gwneud cymaint mwy gyda’i gilydd.

Os ydych chi angen help llaw i adfer eich gyrfa neu help i wella’ch sgiliau, danfonwch e-bost at: employment@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion