Yn ôl i newyddion

Cyngor Melin: Helpu ein trigolion

Ym Melin rydym yn credu mewn darparu nid yn unig to uwch pennau ein trigolion ond hefyd help i’n trigolion gyda'r gefnogaeth a'r cyngor y gallai fod eu hangen arnynt yn eu bywydau bob dydd. Yma, rydym yn rhannu astudiaeth achos wych gan dîm Cyngor Melin a aeth ati i helpu un o’r trigolion gydag achos budd-daliadau cymhleth…

Ysgrifennwyd gan Will

28 Tach, 2023

The Melin Advice logo

Dechreuodd y cyfan pan gysylltodd un o’r trigolion â ni yn ôl ym mis Ebrill, gan ofyn am gymorth gyda'i materion Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Thaliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP). Trefnwyd ymweliad cartref yn brydlon i drafod ei phryderon.

Fodd bynnag, ddaeth tro annisgwyl ar y sefyllfa pan, ar 17 Ebrill, cawsom wybod bod ei thâl PIP wedi dod i ben yn dilyn adolygiad, a bod hyn wedi digwydd ar 23 Mawrth. Dim ond ar yr union ddiwrnod hwnnw y cafodd lythyr yn ei hysbysu ynghylch y newid ysgubol.

Gan gydnabod pa mor daer a chymhleth oedd y sefyllfa, fe wnaeth Leslie o dîm Cyngor Melin rhuthro i’w helpu. Mynnodd adolygiad gorfodol ar gyfer y PIP a'r DHP, gan anelu at fynd i'r afael â'r mater uniongyrchol a darparu cymorth mewn perthynas â'r dreth ystafell wely.

Daeth newyddion da yn fuan pan ddyfarnwyd taliad DHP o £15 yr wythnos i’r trigolyn a thâl i gynnwys y dreth ystafell wely. Roedd y cymorth ariannol hwn yn rhyddhad sylweddol, gyda'r trigolyn yn derbyn ôl-ddyledion gwerth £345.

Serch hynny, ym mis Mehefin bu'n rhaid i ni estyn allan i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gan nad oedd y trigolyn wedi clywed unrhyw sôn am y camau gorfodol i ailystyried ei thaliad PIP. Yn syfrdanol, fe wnaethom ddarganfod nad oedd y cais orfodol i ailystyried y mater wedi ei gofrestru, er eu bod wedi ei dderbyn yn ôl ym mis Ebrill. Cafodd y trigolyn wybod y byddai’n cymryd wyth wythnos arall i ddod i benderfyniad. Yn gwbl ddealladwy, achosodd y newyddion hyn bryder difrifol iddi, a’n hysgogi i roi’r gefnogaeth emosiynol oedd ei angen arni yn ystod y fath gyfnod anodd.

Yna fe wnaethom roi help llaw iddi lywio proses apêl y PIP ar ôl i'r ail ystyriaeth orfodol brofi'n aflwyddiannus. Wrth inni gyflwyno’r apêl, cafwyd newyddion da. Fe wnaeth y DWP ailystyried eu penderfyniad i adfer y dyfarniad PIP a’r gyfradd safonol ar gyfer bywyd bob dydd. Roedd hyn yn fuddugoliaeth sylweddol i'n trigolyn, a chafodd y dyfarniad nid yn unig ei adfer ym mis Awst ond ei ad-dalu o fis Mawrth. I gyd-fynd â’r fath newyddion gwych, cafwyd tâl o £1,530.77 a chafodd wybod ei bod yn gallu hawlio’r swm wythnosol o £68.10, a'r cyfan oll heb fod angen brwydr yn y llys.

Ym mis Medi cafwyd ymweliad cartref arall, a’r tro hwn, ein ffocws oedd ar hawl y trigolyn i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA). Roeddem hefyd yn gallu gwneud cais am y Premiwm Anabledd Difrifol am ei bod yn byw ar ei phen ei hun, ac nid oedd unrhyw un yn hawlio lwfans gofalwyr ar ei chyfer.

Daeth hyn i gyd i ben yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cysylltodd yr Adran Gwaith a Phensiynau â'r trigolyn i'w hysbysu y byddai'r Premiwm Anabledd Difrifol yn cael ei ôl-ddyddio i 2019 pan ddaeth i ben oherwydd materion tebyg. Bydd y trigolyn yn derbyn cyfandaliad o £16,700 yn ychwanegol at ei swm wythnosol o £76.40. Roedd hyn yn gwbl drawsnewidiol i'r trigolyn ac mae'n dangos sut y gall system sydd mor anodd i’w llwytho, fethu pobl.

Roedd Fiona Price, arweinydd tîm Cyngor Melin yn llawn canmoliaeth am y gwaith a wnaed gan Leslie ar ran y trigolyn. Meddai: “Diolch i ymroddiad Leslie, ei natur broffesiynol a’i ddyfalbarhad, llwyddom i gael canlyniad gwych i'r trigolyn hwn oedd yn wynebu anghenion sylweddol. Rwy'n ymfalchïo’n fawr yng ngwaith gwych ein tîm Cyngor yma ym Melin, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ein trigolion.”

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld