Yn ôl i newyddion

Melin a Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda’i gilydd i drechu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberhonddu

Mae gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu yn rhan bwysig o’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Yn ddiweddar, daethom at ein gilydd gyda Heddlu Dyfed-Powys yn Aberhonddu i ddysgu mwy am bryderon trigolion ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ysgrifennwyd gan Will

01 Rhag, 2022

Melin staff and police officers stood together

Ymunodd timau o Melin yn ddiweddar i ddelio gyda materion sy’n effeithion ein trigolion yn Aberhonddu, Powys.

Roeddem yn ddiweddar wedi derbyn cwynion niferus mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) a phroblemau gwastraff/ailgylchu yn yr ardal. Gan gydnabod bod angen dull cydweithredol i ddelio gyda’r materion hyn, trefnodd ein Timau Diogelwch Cymunedol, Cymdogaethau a Chymunedau ddigwyddiad i drafod gyda thrigolion yn ein cynllun tai Old Court House yn y dref.

Roedd yn wych cael partneriaid o Heddlu Dyfed Powys, Cwnstabl Andrew Edwards ac SCCH Laura Morgan, yn ymuno â ni. Rydym bob amser yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i ddelio gydag unrhyw YG cyson sy’n effeithio ein trigolion.

Er gwaethaf diwrnod oer o aeaf, roedd yn dda cael nifer o drigolion yn ymuno gyda ni i drafod y materion a godwyd a rhoi adborth pwysig i ni a’r heddlu ar sut y gallwn helpu i liniaru’r pryderon hyn. Roedd y trigolion hefyd yn falch o weld ymateb cydgysylltiedig i’w pryderon ac rydym yn edrych ymlaen ar barhau i weithio’n agos gyda thrigolion yn yr ardal.

Yn anffodus, er gwaethaf y lleoliad godidog, nid yw Aberhonddu a Phowys yn ehangach, yn ddieithr i YG. Rydym eisiau clywed gan drigolion os oes ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn ag YG neu unrhyw faterion cymunedol eraill. Po gynharaf y mae trigolion yn gadael i ni wybod, y cynharaf y gallwn ni weithredu.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld