Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Melin yn cefnogi ymgais i godi arian at Alzheimer

Mae staff Cartrefi Melin wedi rhoi hwb i ymgyrch un o’u cydweithwyr i godi arian ar gyfer ymchwil i Glefyd Alzheimer.

Ysgrifennwyd gan Sam

23 Ion, 2017

Melin yn cefnogi ymgais i godi arian at Alzheimer

Mae staff Cartrefi Melin wedi rhoi hwb i ymgyrch un o’u cydweithwyr i godi arian ar gyfer ymchwil i Glefyd Alzheimer. Mae Swyddog Byw’n Annibynnol Sam Howells yn ymarfer ar gyfer Marathon Brighton yn Ebrill ac mae ei ffrindiau yn y Gymdeithas Tai ym Mhont-y-pŵl wedi cyfrannu £465.20 diolch i apêl ‘Humbug’, yn casglu arian yn lle prynu cardiau Nadolig. Mae hyn yn mynd â chyfanswm Sam i £1,140.60.

Mae dros 850,000 o bobl yn y DU yn byw gyda Dementia, gyda 4% o’r rheiny o dan 65. Bydd 1 o bob 3 o bobl dros 65 yn marw â Dementia. Mae Melin wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith wrth ddod yn fudiad dementia-gyfeillgar ac wedi dderbyn logo Cymdeithas Alzheimer. Cafodd y staff sesiynau i godi ymwybyddiaeth ac mae pobl sy’n byw yng nghartrefi gwarchod Melin wedi manteisio ar sesiynau'r Blwch Atgofion sy’n cael eu rhedeg ar y cyd gyda’r gwasanaeth amgueddfeydd.

Mewn ymgais i roi hwb i’r codi arian mae Sam hefyd wedi cynnal brecwast yn y swyddfa a gwerthu teisennau. Dywedodd Sam: “Mae rhedeg 26.2 milltir yn mynd i fod yn her anhygoel i fi gan fod rhedeg yn gymharol newydd i fi. Pan fydda’ i allan yn rhedeg hyd at 22 milltir ar ddydd Sul yn yr oerfel a’r glaw, meddwl am y gwahaniaeth y bydd yr arian yma’n gwneud i’r rheiny sy’n ymladd dementia sy’n cadw fi i fynd.”

Dywedodd Dirprwy Prif Weithredwr Melin Peter Crockett: “Mae gyda ni dîm da o staff sy’n ymroddedig i helpu’n trigolion a’r gymuned ehangach. Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu cefnogi ymgais Sam i godi arian ar gyfer achos mor dda.”


Yn ôl i newyddion