Yn ôl i newyddion

Melin yn helpu i ailwampio neuadd bensiynwyr leol

Mae Cartrefi Melin a'u contractwyr wedi ateb yr alwad gan bensiynwyr lleol a oedd yn daer i roi gwedd newydd, mawr ei angen, i'w neuadd gymunedol.

Ysgrifennwyd gan Sam

30 Ion, 2017

Melin yn helpu i ailwampio neuadd bensiynwyr leol
Mae Cartrefi Melin a'u contractwyr wedi ateb yr alwad gan bensiynwyr lleol a oedd yn daer i roi gwedd newydd, mawr ei angen, i'w neuadd gymunedol.

Ymunodd timau Cymunedau a Chynaliadwyedd Melin a Mel's Handy People gyda'r contractwyr Glanmor, Robert Price, Gerflor a chyflenwyr Dulux i dacluso a thwtio Neuadd y Pensiynwr ym Mhont-y-moel.

Mae'r neuadd wedi cael ei defnyddio gan bobl hŷn yn yr ardal ers y 1950au cynnar ac mae wedi'i thrwytho mewn hanes lleol. Fe wnaeth y bobl sy'n defnyddio'r neuadd gysylltu â Melin i weld a allai'r gymdeithas dai leol helpu, am fod mawr angen trwsio'u hoff fan cyfarfod.

Diolch i ymdrechion y tîm o gwmnïau lleol a chenedlaethol fe wnaethant lwyddo i osod toiledau newydd, cypyrddau cegin, lloriau, paentio a chynnal arolwg asbestos rhad ac am ddim gan Encompass, a wnaeth, diolch byth, gadarnhau bod yr adeilad yn holliach.

Mae Marilyn Manley yn un o'r nifer o bobl (50-94 oed) sy'n defnyddio'r neuadd yn wythnosol i gwrdd â ffrindiau. Dywedodd Mrs Manley: "Rydym yn ddiolchgar iawn am eich holl help. Mae'r gwaith yr ydych wedi'i wneud mewn gwirionedd wedi bywiogi'r neuadd. Mae llawer o bobl sy'n dod yma wedi dweud cymaint yn well y mae'n edrych erbyn hyn."

Meddai Peter Crockett, Dirprwy Brif Weithredwr Cartrefi Melin: “Rydym bob amser yn awyddus i helpu grwpiau cymunedol lleol, yn ogystal â’n trigolion ein hunain. Mae’n galonogol i weld bod ein cyflenwyr a’n contractwyr yr un mor awyddus i helpu pan fydd ein timau staff yn cysylltu â hwy am help tuag at achos gwych ac rwy’n siŵr y bydd pobl yn parhau i fwynhau defnyddio’r adeilad cymunedol hwn a drysorir yn fawr iawn.”

Yn ôl i newyddion