Yn ôl i newyddion

Paned a Chacen

Mae ein trigolion yng Nghwrt y Santes Fair yng Nghasnewydd yn neidio ar fws bob wythnos i ymweld â thrigolion Tŷ Cae Nant, Cwmbrân am brynhawn o baned a chacen.

Ysgrifennwyd gan Fiona

18 Hyd, 2017

Paned a Chacen
Mae ein trigolion yng Nghwrt y Santes Fair yng Nghasnewydd yn neidio ar fws bob wythnos i ymweld â thrigolion Tŷ Cae Nant, Cwmbrân am brynhawn o baned a chacen.

Mae ysgol leol Crownbridge yn mynychu hefyd, gan drefnu caffi a gwerthu cacennau cartref. Disgyblion; Cameron Sulway, Marianna Tedesco a Daniel Lewis yn cymryd archebion a gweini ar y trigolion gan godi mwy na £50 i elusen Canser Macmillan.

Meddai Claire Boshein, rheolwr cynllun Cwrt y Santes Fair; “Mae’n wych i’r trigolion gael dau gynllun y dod at ei gilydd fel hyn a rhannu eu hwythnos. Mae pawb wrth eu bodd.”

Marianna gyda’r trigolion Pat Walker a Mary Evans a ddaeth yn ffrindiau gorau y diwrnod y symudon nhw i mewn, yn 2015.

Meddai Pat “Rwyf wrth fy modd yn byw yma, dydych chi byth yn unig. Mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser ac rwyf wedi gwneud cymaint o ffrindiau.”

Yn ôl i newyddion