Yn ôl i newyddion

Datganiad i’r wasg: Partneriaeth ar ei gorau

Mae Llythrennedd Carbon Cartrefi Cymru yn gonsortiwm o 27 o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Cymreig sydd wedi cyd-gronni eu harian a’u hadnoddau i wella Llythrennedd Carbon oddi mewn i’w sefydliadau.

Ysgrifennwyd gan Fiona

01 Hyd, 2020

Partneriaeth ar ei gorau

Mae Llythrennedd Carbon Cartrefi Cymru yn gonsortiwm o 27 o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Cymreig sydd wedi cyd-gronni eu harian a’u hadnoddau i wella Llythrennedd Carbon oddi mewn i’w sefydliadau.

Amcan y prosiect yw rhoi cyfle i bawb edrych ar realiti newid yn yr hinsawdd iddyn nhw yn eu bywydau gartref ac yn y gwaith. Gyda ffeithiau ar sut mae gweithgaredd dynol, hinsawdd a systemau naturiol wedi’u cyd-blethu, mae unigolion, cymunedau a sefydliadau’n cael cymorth i leihau allyriadau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill.

Y mis yma, ymgymerodd saith o’r cymdeithasau tai – Linc Cymru, Taff Housing, Cartrefi Melin, Hafod, Tai Wales and West, Grŵp Pobl, a Thai Tarian – â’r cwrs hyfforddi Llythrennedd Carbon gyda Chynnal Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion.

Mae hyn yn golygu bod naw o staff wedi cwblhau’r cwrs nawr gyda 74 yn rhagor wedi ymuno ym mis Hydref i gwblhau’r cwrs hyfforddi’r hyfforddwr. Mae hyn yn dangos gwaith partneriaeth gwych ac ymrwymiad corfforaethol gan bawb – bydd yr hyfforddwyr ym mhob sefydliad yn ymestyn yr hyfforddiant at aelodau eraill o’r staff yn y flwyddyn newydd.


Yn ôl i newyddion