Yn ôl i newyddion

Party on

Rydym wedi helpu cylch chwarae Precious Gems yn y Ddôl Werdd. Roedd y plant yn mynd i golli eu parti Nadolig ar ôl i ganolfan chwarae yng Nghwmbrân fynd i ddwylo gweinyddwyr ac fe gollon nhw eu hernes.

Ysgrifennwyd gan Fiona

14 Rhag, 2016

Party On

Rydym wedi helpu cylch chwarae Precious Gems yn y Ddôl Werdd. Roedd y plant yn mynd i golli eu parti Nadolig ar ôl i ganolfan chwarae yng Nghwmbrân fynd i ddwylo gweinyddwyr ac fe gollon nhw eu hernes.

Rhoddodd ein tîm Cymunedau gefnogaeth i’r cylch gyda siec am £100, gyda phob plentyn yn derbyn anrheg Nadolig. Derbyniodd y perchnogion, Joanne a Louise, y siec oddi wrth ein masgot, Melvin, a threuliodd Melvin y bore yn chwarae gyda’r plant.

Sefydlwyd y cylch chwarae 18 mis yn ôl, gyda phlant o 2-5 oed yn elwa ar awyrgylch gyffrous, hwyliog a chyfeillgar yn nhiroedd Ysgol Gynradd Greenmeadow. Mae’r ddwy yn falch o’u taith ar ôl derbyn adborth cadarnhaol mewn arolwg diweddar. Bydd yr adroddiad llawn ar gael blwyddyn nesaf. Mae rhaglen ECCERS y cylch wedi derbyn y sgôr uchaf yn Nhorfaen.

Dywedodd Louise: “Heb help Melin fe fyddem wedi gorfod esbonio wrth y plant na fyddai yna barti Nadolig. ‘Allwn ni ddim diolch digon i Melin. Nid yn unig bydd gyda ni ddigon o fwyd ond bydd anrheg i bob plentyn hefyd.”

Mae yna lefydd ar gael o hyd yn y cylch chwarae. Ewch i’w gwefan am fwy o wybodaeth

Os ydych chi’n credu y gall Melin helpu’ch cymuned chi pam na wnewch chi gais i Gronfa Jump trwy ddanfon e-bost at ein Tîm Cymunedau.


Yn ôl i newyddion