Yn ôl i newyddion

Pawennau ar Batrôl

Rydym wedi ymuno ag ymgyrch yn gofyn am gymorth cerddwyr cŵn yn Nhorfaen i hysbysu am droseddau.

Ysgrifennwyd gan Sam

10 Hyd, 2016

Pawennau ar Batrôl
Rydym wedi ymuno ag ymgyrch yn gofyn am gymorth cerddwyr cŵn yn Nhorfaen i hysbysu am droseddau. Lansiwyd Pawennau ar Batrôl mewn digwyddiad yng Ngorsaf Dân Y Dafarn Newydd dydd Gwener ddiwethaf ac mae’n fenter rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Pawennau ar Batrôl yn gofyn i gerddwyr cŵn a cherddwyr fel ei gilydd i’w hysbysu am unrhyw droseddau y byddan nhw’n gweld tra eu bod nhw o gwmpas.
Amcan y cynllun yw:
• Lleihau’r cyfle i droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i ddigwydd.
• Lleihau’r ofn o drosedd yn arbennig ar gyfer pobl fregus
• Adeiladu ysbryd cymdogol lle gall cerddwyr cŵn gyfrannu at amddiffyn eu cymdogaeth
Aeth aelodau o’n timau Gofal a Thrwsio i’r lansiad i gefnogi’r ymgyrch.
Nid cynllun i bobl ymyrryd mohono, ond cynllun i’n galluogi ni i wybod ble mae problemau a’r gallu i rannu gwybodaeth yn hwylus ac yn effeithiol
Graffiti, baw ci, goleuadau stryd wedi torri, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thipio anghyfreithlon - dyma rhai o’r pethau y mae galw ar aelodau Pawennau ar Batrôl i edrych allan amdanynt.
Os hoffech fod yn aelod o’r cynllun fe allwch lanw ffurflen gofrestru oddi wrth Pauline.Lohfink@gwent.pnn.police.uk

Yn ôl i newyddion