Yn ôl i newyddion

Peidiwch gael eich twyllo gan fenthyciwr arian didrwydded

Mae’r benthycwyr hyn yn rhai didrwydded sy’n aml yn targedu teuluoedd incwm isel sydd mewn sefyllfa enbyd

Ysgrifennwyd gan Marcus

27 Hyd, 2016

Mae’r benthycwyr hyn yn rhai didrwydded sy’n aml yn targedu teuluoedd incwm isel sydd mewn sefyllfa enbyd. Efallai y byddant yn gyfeillgar i ddechrau ond nid yw benthyg ganddynt yn syniad da, byth - hyd yn oed os yw eich sgôr credyd yn isel a dim ond swm bychan sydd ei angen arnoch am gyfnod byr. Gallant ymddangos yn gyfeillgar ar y dechrau, ond maent yn aml yn defnyddio bygythiadau ac yn codi llogau llawer uwch na ffynonellau eraill mwy credadwy. Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn cadw manylion holl fenthycwyr trwyddedig, ynghyd â phawb sydd wedi gwneud cais am drwydded neu rai sydd wedi colli neu gael atal eu trwydded. Ewch i’r Gofrestr Credyd Defnyddwyr i weld os yw benthyciwr wedi ei drwyddedu. Rydym yn gofyn i’n trigolion siarad â’n Tîm Cyngor ar Arian cyn cymryd unrhyw fenthyciad neu ddyled - e-bostiwch ni ar moneyadvice@melinhomes.co.uk , anfonwch neges atom ar Facebook neu ffoniwch 01495 745910.

Yn ôl i newyddion