Yn ôl i newyddion

Plant wrth eu bodd

Roedd disgyblion ifanc o Ysgol Gynradd Beaufort Hill yn ymyl Glyn Ebwy wrth eu bodd gyda’u cyfarpar chwarae newydd a ddarparwyd gan Jump2.

Ysgrifennwyd gan Sam

27 Chwef, 2018

Plant wrth eu bodd
Diolch i’ch rhoddion chi i gronfa Jump derbyniodd yr ysgol £300 ar gyfer cyfarpar chwarae ar gyfer y tu allan. Mae plant y dosbarth derbyn wedi bod yn mwynhau eu cegin fwd newydd, teclynnau a chloddwyr. Maen nhw wedi bod yn astudio’r tywydd fel un o’u pynciau ac mae’r teganau newydd yn yr ardd wedi eu hannog i fynd allan ym mhob tywydd. Roedd Sophie Davies, Charlie Watkins a Madison Allen o’r dosbarth derbyn yn awyddus i sefyll am luniau er ei bod yn bwrw eira. Dywedodd eu hathrawes Nicolle Williams: “Rydym yn ddiolchgar am y rhodd gan Melin. Mae’r cyfarpar chwarae yn cynnig ffordd ddiogel i’r plant chwilota, maen nhw wedi cael llawer o hwyl gyda’r cloddwyr yn codi cerrig, rhisgl a cherrig bach o gwmpas ac yn chwarae gyda’r rhew sydd wedi ffurfio yn sinc y gegin fwd.”

Yn ôl i newyddion