Yn ôl i newyddion

Polisi Graeanu

Polisi Graeanu

Ysgrifennwyd gan Marcus

14 Tach, 2017

Polisi Graeanu
Pan fydd rhagolygon o rew, eira neu iâ dros nos bydd ein contractwyr fel arfer yn bresennol yn gynnar y bore wedyn er mwyn gwasgaru graean ar lwybrau cymunedol, meysydd parcio ac ardaloedd cyhoeddus eraill.

Bydd mwyafrif yr heolydd o gwmpas eich cartref yn cael eu trin gan eich Cyngor lleol, ond mae Melin yn gyfrifol am nifer fach o heolydd, y byddwn ni’n eu trin hefyd.

Mae’r gaeaf yn adeg pan fod heolydd a llwybrau’n gallu bod yn rhewllyd ac, o bosibl, yn beryglus. Mae cadw’n trigolion yn ddiogel yn flaenoriaeth i ni. Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â graeanu, ffoniwch 01495 745910 neu e-bostiwch enquries@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion