Yn ôl i newyddion

Hyrwyddo iechyd a lles gyda thrigolion Melin

Ar ddydd Mawrth 6 Chwefror, cynhalion ni ein digwyddiad blynyddol ‘Caru eich Iechyd a Lles’ yn Stadiwm Cwmbrân. Mae'r digwyddiad iechyd a lles wedi ei greu'n benodol ar gyfer ein trigolion mewn cartrefi cysgodol, gydag amrywiaeth o weithgareddau, gemau a phrofiadau, pob peth â'r bwriad o hyrwyddo lles corfforol a meddyliol.

Ysgrifennwyd gan Will

09 Chwef, 2024

Llun o ddyn chwarae gyda phlatiau sy'n troelli

Y digwyddiad

Daeth dros 70 o drigolion o 11 o'n cynlluniau cartrefi cysgodol yn y de ddwyrain. Cawson nhw eu croesawu gan staff Melin o'n timau cymunedau, cyfathrebu a byw'n annibynnol, yn ogystal â gwirfoddolwyr o'n grŵp Zest.

Ar ôl te a choffi i groesawu, cawson nhw nifer o ddewisiadau i gael ymuno yn y digwyddiad, roedd y rhain yn cynnwys:

  • Cwrlo gyda Chymuned Clwb Rygbi'r Dreigiau
  • Hwyl a chystadlaethau pêl-droed gyda County in the Community
  • Sgiliau syrcas a modelu balŵns gyda Masquerade
  • Mwytho a thrin anifeiliaid gydag Animals Interactive
  • Tylino gan Petrena
  • Ffeltio gydag Eva
  • Badminton a thenis bwrdd (rydym yn deall bod Diane Hughes o Castle Court wedi chwarae tenis bwrdd dros Gymru)
  • Cwis
  • Bingo

Roedd rhywbeth i bawb a hedfanodd yr amser wrth i drigolion gymryd rhan yn yr amrywiaeth o weithgareddau oedd ar gael. Roedd cinio ysgafn er gwaethaf y brechdanau di-ri, doedd dim llaesu dwylo yn ail hanner y digwyddiad!

Pam

Rhannodd Fiona Williams, Prif Swyddog Cyfathrebu a Diwylliant Melin, a drefnodd y digwyddiad, y syniad y tu ôl i ‘Caru eich Iechyd a Lles’.

Dywedodd: “Cawson amser gwych yn Stadiwm Cwmbrân gyda'n trigolion. Mae iechyd a lles mor bwysig i Melin, ein trigolion a'n staff ac rydym am sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynd ar ôl a dysgu mwy am y pethau y gallwn wneud i wella'n iechyd meddyliol a chorfforol.

“Mae gyda ni wyl Zest i'n staff ac rydym yn cynnal gweithgareddau i deuluoedd pan fyddwn yn cynnal Zest yn y Parc ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol, ond rydym yn teimlo ei fod yn bwysig cael digwyddiad yn benodol ar gyfer ein trigolion hŷn hefyd.

Yn ystadegol, mae pobl yn sôn am lefelau is o iechyd ar ôl 65 oed ac mae 22% o ddynion hŷn a 28% o fenywod hŷn yn cael eu heffeithio gan iselder. Ac yn fwy, mae rhyw un o bob pump o bobl dros 65 oed yn byw ar eu pennau eu hunain. Mae ystadegau fel hyn yn dangos pam fod digwyddiad iechyd a lles i bob hŷn mor bwysig, yn enwedig pan fo ymgyrchoedd iechyd meddyliol a chorfforol yn canolbwyntio mor aml ar bobl iau.

Fiona Williams — Catrefi Melin

Lluniau o'r digwyddiad

Eich adborth

Fe wnaethom ni fwynhau'r diwrnod ac roedden ni'n awyddus i glywed yr hyn yr oedd ein trigolion yn meddwl amdano hefyd. Roedden ni wrth ein bodd bod 100% o'r ffurflenni adborth yn dangos y byddai trigolion yn dod eto i ddigwyddiad yn y dyfodol. Roedden ni'n falch hefyd i weld mai sgôr trigolion ar gyfer y digwyddiad oedd 4.8 allan o 5, gyda 90% o'r rheiny a ddaeth yn rhoi marciau llawn!

Dywedodd trigolion Waterside Court yn Nhorfaen: Cawsom ni amser anhygoel. Rydym ni'n mynd pob blwyddyn, ac maen nhw'n gwella pob tro, diolch.”

Yn ogystal â gweld sut mwynhaodd trigolion y diwrnod, roedden ni'n awyddus i wybod pa weithgareddau oedd mwyaf wrth eich bodd, a'r mwyaf poblogaidd oedd:

1af. Y cwis

2il. Animals Interactive

3ydd. Bingo

4ydd. Cwrlo

Doedd dim syndod clywed bod yr anifeiliaid del mor boblogaidd ac, wrth gwrs, mae Helen ac Alan o'n Tîm Cymunedau bob amser yn gwneud yn dda wrth gynnal cwis cystadleuol tu hwnt a sesiwn bingo!

Wrth gwrs, rydym am wella'r digwyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly sylwon ni bod rhai wedi son bod tymheredd yr ystafell yn oer. Roedden ni'n meddwl hyn a byddwn yn dweud am hyn wrth y lleoliad. Nodon ni bod nifer ohonoch chi am gael teisen yn y bwffe y tro nesaf ac mae hynny'n swnio'n dda i ni hefyd!

Yn olaf, roedden ni am wybod a oedd unrhyw weithgareddau yr hoffai trigolion eu gweld mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Ymhlith y dewisiadau poblogaidd roedd:

  • Dawnsio llinell
  • Ioga / Ioga cadair
  • Saethyddiaeth

Dyma awgrymiadau gwych ac fe welwn ni beth allwn ni wneud ar gyfer y tro nesaf.

Cafodd fy nhrigolion amser gwych, ac roedd un a oedd fwyaf ansicr a nerfus cymaint wrth ei bodd nes iddi ofyn pryd oedd y nesaf.

Sara Oxton — Cwrt Victoria, Abergavenny

Diolch

Hoffem ddiolch i’r trigolion i gyd am gymryd rhan yn y gweithgareddau ac am wneud y diwrnod yn un arbennig iawn. Rydym yn ddiolchgar am eich adborth onest hefyd. Hoffem ddiolch hefyd i'r sefydliadau partner ac eraill a oedd yn cynnal gweithgareddau am wneud y digwyddiad yn un llawn. Yn olaf, diolch i'r tîm a'i gwnaeth yn bosibl!

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld