Yn ôl i newyddion

Rhaglen Graddedigion Preswyl yn y maes Gwybodaeth Busnes

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal rhaglen Graddedigion Preswyl gyda thâl yn ein hadran Gwybodaeth Fusnes yr haf hwn.

Ysgrifennwyd gan Valentino

28 Meh, 2016

Rhaglen Graddedigion Preswyl yn y maes Gwybodaeth Busnes

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal rhaglen Graddedigion Preswyl gyda thâl yn ein hadran Gwybodaeth Fusnes yr haf hwn. Rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i gyflwyno'r rhaglen newydd, a hynny diolch i gyllid gan Santander. Rydym yn chwilio am berson sydd wedi graddio'n ddiweddar o Fet Caerdydd (neu'n fyfyriwr yn ei f/blwyddyn olaf) i weithio gyda ni dros gyfnod o 3 mis. Mae'r rôl yn lleoliad gyda thâl, a bydd yn cydlynu a dadansoddi data i'n helpu i gasglu'r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau busnes cytbwys. Mae hwn yn gyfle gwych i raddedigion neu fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf i ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd busnes, yn enwedig y rheini sy'n chwilio am yrfa yn y maes Tai neu Les Cymdeithasol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Met Caerdydd. Mae'r cyfle hwn yn agored i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ym Met Caerdydd a graddedigion diweddar (yn y 2 flynedd ddiwethaf). I gael cymorth a chyngor i ddatblygu cais, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Colin Hinds-Payne yn Adran Gyrfaoedd y Brifysgol cyn y dyddiad cau ar 15 Gorffennaf.


Yn ôl i newyddion